Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig 2025-26
Bydd Blwyddyn Bontio UKSPF 2025-26 yn cefnogi cyflawni Cenhadaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig gyda phwyslais penodol ar dwf economaidd ar draws y tri maes blaenoriaeth, sef Cymunedau a Lle, Cefnogi Busnesau Lleol, a Phobl a Sgiliau.
Bydd cyfuniad y Gronfa o gyllid refeniw a chyfalaf yn sicrhau bod lleoedd yn mynd ati’n uniongyrchol i gyflawni’r brif Genhadaeth, sef sbarduno twf economaidd.
Nod UKSPF 2025-26 yw cefnogi gweithgareddau rhwng Ebrill 2025 a Mawrth 2026, gan gynnwys parhau â rhai o weithgareddau presennol UKSPF lle bo hynny’n briodol.
Dyraniad UKSPF Castell-Nedd Port Talbot rhwng Ebrill 2025 a Mawrth 2026 yw £14.3 miliwn
Blaenoriaethau Buddsoddi UKSPF 2025-26
Nodir isod y Themâu a’r Is-themâu sy’n gysylltiedig â phob Blaenoriaeth:
Blaenoriaeth UKSPF: Cymunedau a Lle
Thema 1: | Cymunedau iach, diogel a chynhwysol |
---|---|
Is-themâu: |
|
Thema 2: | Lleoedd sy’n Ffynnu |
Is-themâu: |
|
Blaenoriaeth UKSPF: Cefnogi Busnesau Lleol
Thema 1: | Cefnogaeth i Fusnesau |
---|---|
Is-themâu: |
|
Blaenoriaeth UKSPF: Pobl a Sgiliau
Thema 1: | Cyflogadwyedd |
---|---|
Is-themâu: |
|
Thema 2: | Sgiliau |
Is-themâu: |
|
Cyflawni Prosiectau UKSPF 2025-26 Castell-nedd Port Talbot
Er mwyn sicrhau dull cyflwyno strategol, gyda phontio esmwyth a chyflwyno cyflym i ddechrau ar 1 Ebrill 2025, mae Cyngor CNPT yn cydweddu â dull gweithredu rhanbarth De-orllewin Cymru o ran penderfyniadau a chyflwyno lleol.
Mae’r gwaith cyflwyno’n seiliedig ar ddull Prosiect Angori strategol gyda phum prosiect Angori dan arweiniad y Cyngor i gyflawni blaenoriaethau ar gyfer ein hardal:
- Cymuned
- Lle
- Busnes
- Cyflogadwyedd
- Sgiliau
Bydd Prosiectau Angori Cymuned, Lle a Busnes yn cynnwys Cynlluniau Grant Trydydd Parti i ddyfarnu cyllid i sefydliadau’r sector cyhoeddus, y sector preifat, y sector cymunedol a’r trydydd sector.
Cynlluniau Grantiau Trydydd Parti Castell-nedd Port Talbot:
Cronfa Ffyniant Cymunedau UKSPF Castell-nedd Port Talbot
Cyfanswm y gronfa: £1m
- Dyfarniad grant lleiaf: £5,000
- Dyfarniad grant mwyaf: £50,000
Nod y gronfa
Nod Cronfa Ffyniant Cymunedau UKSPF CNPT yw darparu cymorth ariannol ar gyfer cymunedau iach, diogel a chynhwysol.
O ran ei chwmpas, mae’r Gronfa’n cynnwys gwella iechyd a llesiant, lleihau troseddau ac ofn troseddau, dod â chymunedau ynghyd a mynd i’r afael â digartrefedd.
Bydd Cronfa Ffyniant Cymunedau CNPT, gwerth £1m, yn cefnogi buddsoddiadau cyfalaf a refeniw.
Bydd y Gronfa’n canolbwyntio ar y themâu canlynol y nodwyd eu bod yn flaenoriaeth yng Nghynllun Corfforaethol CNPT a Chynllun Buddsoddi UKSPF, ac sy’n cyfateb i flaenoriaethau buddsoddi UKSPF:
- Gwella iechyd a llesiant
- Lleihau troseddau ac ofn troseddau
- Dod â chymunedau ynghyd
- Mynd i’r afael â digartrefedd
- Mynd i’r afael â thlodi
- Mynediad at Wasanaethau
- Diogelwch Cymunedol
- Mentrau Cymunedol Amgylcheddol a Gwyrdd
Gwahoddir ceisiadau ar gyfer prosiectau cymwys ar draws y fwrdeistref sirol.
Lefelau’r grant
Darperir cymorth ariannol trwy alw ar grwpiau cymunedol cymwys â chyfansoddiad i gyflwyno ceisiadau cystadleuol am gyllid er mwyn cyflwyno prosiectau cyfalaf a refeniw (neu gyfuniad o brosiectau cyfalaf a refeniw).
Mae trothwy’r grant rhwng £5,000 a £50,000.
Bydd ceisiadau mwy o hyd at £100,000 yn cael eu hystyried fesul achos yn ôl disgresiwn y panel cyllido.
Prosiectau cymwys
Mae’r canlynol yn enghreifftiau o’r math o weithgareddau cymwys y gellid ystyried eu cyllido:
- Cyllid ar gyfer seilwaith newydd neu welliannau i seilwaith presennol yn y gymuned neu’r gymdogaeth, gan gynnwys mannau gwyrdd lleol
- Cefnogaeth ar gyfer gwella darpariaeth teithio llesol a phrosiectau eraill ar raddfa fach sy’n gysylltiedig â seilwaith trafnidiaeth werdd
- Cyllid ar gyfer mentrau cymunedol arloesol i atal troseddau
- Cyllid ar gyfer gwirfoddoli a/neu weithredu cymdeithasol effeithiol
- Cyllid ar gyfer cyfleusterau chwaraeon lleol
- Buddsoddi mewn meithrin galluoedd a chymorth seilwaith ar gyfer grwpiau cymunedol
- Mesurau cymunedol i leihau costau byw, gan gynnwys mesurau i wella effeithlonrwydd ynni, a gwrthweithio tlodi tanwydd a’r newid yn yr hinsawdd
- Cyllid i gefnogi astudiaethau dichonoldeb perthnasol
- Cefnogaeth a buddsoddiad mewn seilwaith digidol ar gyfer cyfleusterau cymunedol lleol
- Cefnogaeth ar gyfer gweithgareddau cymunedol i wella iechyd a llesiant
Sefydliadau cymwys
- Grwpiau Gwirfoddol a Grwpiau Cymunedol â chyfansoddiad
- Elusennau Cofrestredig
- Sefydliadau nid-er-elw
- Mentrau Cymdeithasol
- Caiff canghennau lleol sefydliadau trydydd sector cenedlaethol gyflwyno cais gan ddefnyddio Cyfansoddiad y rhiant-sefydliad
- Caiff Cynghorau Tref a Chymuned gyflwyno ceisiadau am brosiectau cymunedol llesol i’r gymuned sy’n ychwanegol at eu cyfrifoldebau statudol
Amserlen Ddangosol (gallai hyn newid)
Mae’r gronfa’n agor â galwad agored, amser cyfyngedig am Ddatganiadau o Ddiddordeb a Cheisiadau Llawn | 1 Ebrill 2025 |
Dyddiad cau ar gyfer Mynegi Diddordeb | Dydd Gwener, 9 Mai 2025 |
Dyddiad cau ar gyfer Ceisiadau Llawn | Dydd Gwener, 30 Mai 2025 (canol dydd) |
Asesu’r Ceisiadau | Yn dilyn dyddiad cau 30 Mai |
Panel Cyllido (yn gwneud penderfyniadau) | Diwedd Mehefin 2025 |
Cyfnod cyflwyno | Gorffennaf - 31 Rhagfyr 2025 |
Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau
Canllawiau cyllido llawn i'w dilyn.
I gael ffurflen gais, anfonwch neges e-bost i communityprosperityfund@npt.gov.uk.
Cronfa Ffyniant Busnesau UKSPF Castell-nedd Port Talbot
Bydd y Gronfa Ffyniant Busnesau, sy’n agor i geisiadau o fis Ebrill 2025, yn cynnig cyllid cyfalaf a refeniw ar gyfer prosiectau trwy’r ddau linyn canlynol:
- Grant Buddsoddiad Busnes.
- Cronfa Flaenoriaeth Busnesau Lleol.
Cyfanswm y Gronfa ar gyfer y ddau linyn - £1,250,000
Llinyn 1 – Grant Buddsoddiad Busnes/Grant Cychwyn Busnes
- Dyfarniad grant lleiaf: £500.00
- Dyfarniad grant mwyaf: £10,000
Llinyn 2 – Cronfa Flaenoriaeth Busnesau Lleol
- Dyfarniad grant lleiaf: £25,000
- Dyfarniad grant mwyaf: £100,000
Nod y cronfeydd
Cefnogi busnesau newydd, busnesau presennol a darpar fewnfuddsoddwyr i gyflwyno prosiectau a buddsoddiadau sy’n cyfrannu at flaenoriaethau canlynol y Cyngor:
- Twf a datblygiad busnesau trwy ddenu cwsmeriaid newydd, cyflwyno cynhyrchion/ gwasanaethau newydd, arallgyfeirio gweithrediadau trwy ehangu i sectorau neu farchnadoedd daearyddol newydd ac ati.
- Gwella Eiddo Masnachol i annog perchnogion a deiliaid eiddo i wella ansawdd a nifer y safleoedd masnachol.
- Gwella effeithlonrwydd gweithredol a chynhyrchiant busnesau, h.y. cyflwyno meddalwedd neu apiau newydd, buddsoddi mewn gwefan, prynu peiriannau a chyfarpar newydd ac ati.
- Creu a diogelu swyddi trwy fuddsoddi mewn prosiectau gweithrediadau busnes.
- Annog Arloesedd trwy gefnogi busnesau yn y sector Ymchwil, Datblygu ac Arloesi.
- Arallgyfeirio’r economi leol trwy gefnogi busnesau i symud i mewn i farchnadoedd newydd.
- Datblygu cadwyni cyflenwi lleol trwy annog busnesau i archwilio dewisiadau o ran cyflenwyr lleol.
- Cronfa Flaenoriaeth Busnesau Lleol – sydd â’r nod o gefnogi prosiectau a buddsoddiadau sy’n cyfrannu at flaenoriaethau’r Cyngor o ran twf economaidd. Prosiectau lle mae angen lefel uwch o gyllid.
Lefel y Grant
Llinyn 1 - Grant Buddsoddiad Busnes/Grant Cychwyn Busnes
- Mae grantiau gwerth rhwng £500 a £10,000 ar gael.
Llinyn 2 - Cronfa Flaenoriaeth Busnesau Lleol
- Mae grantiau rhwng £25,000 a £100,000 ar gael.
Hyn a hyn o gyllid grant sydd ar gael, a ddyfernir ar sail gystadleuol.
Cyfrifir lefel y grant a ddyfernir yn seiliedig ar y canlynol:
- Canran y costau cymwys (heb gynnwys TAW), a
- Nifer y swyddi a grëir/ddiogelir gan y prosiect fel a ganlyn:
- £5,000 fesul swydd lawn-amser @ 30+ awr yr wythnos
- £2,500 fesul swydd ran-amser, 16-29 awr yr wythnos
Costau Cymwys
Gall y grant gefnogi’r costau refeniw canlynol:
- Offer, peiriannau a chyfarpar sy’n cynyddu capasiti, yn gwella cynhyrchiant, yn defnyddio llai o ynni ac ati
- Mesurau uniongyrchol i gefnogi arloesi, megis llwyfannau profi neu arddangos arloesi; labordai a chyfleusterau profi; datblygu syniadau am gynhyrchion, prosesau a gwasanaethau newydd neu well; cyrchu gwybodaeth ac arbenigedd ynghylch deunyddiau newydd ac ati
- Seilwaith a chaledwedd TG sy’n cefnogi mabwysiadu technolegau newydd yn y busnes, gwella prosesau ac effeithlonrwydd gweithredol, cefnogi newidiadau mewn patrymau gwaith ac ati
- Gwaith ar safleoedd i gynyddu capasiti, cefnogi arallgyfeirio, neu fesurau i ddefnyddio llai o ynni
DS: Bydd rhai eitemau cyfalaf, megis cyfarpar symudol, celfi swyddfa, cerbydau ac ati yn anghymwys.
Gall y grant gefnogi’r costau refeniw canlynol:
- Integreiddio systemau TG i gefnogi gwella prosesau ac effeithlonrwydd gweithredol
- Newid arferion gwaith er mwyn gwella effeithlonrwydd
- Datblygu strategaethau marchnata ac e-farchnata sy’n cyfateb i newidiadau mewn ymddygiad prynu gan gwsmeriaid, targedu marchnadoedd cwsmeriaid newydd neu ddenu cwsmeriaid newydd
- Astudiaethau dichonoldeb i asesu cyfleoedd datblygu
- Meddalwedd sy’n fodd i’r busnes wella effeithlonrwydd, cynyddu capasiti, rheoli stoc, integreiddio prosesau busnes neu reoli ffyrdd newydd o weithio
- Ffioedd archwilio a chofrestru ar gyfer achrediadau i gefnogi twf y busnes, gwella prosesau gweithredol, arallgyfeirio i sectorau newydd ac ati
- Ardystio a phrofi cynnyrch
- Hyfforddiant staff sy’n gwella sgiliau, hyblygrwydd y gweithlu ac ati
Sefydliadau cymwys
Busnesau masnachol, gan gynnwys mentrau cymdeithasol.
Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau
Llinyn 2 - Cronfa Flaenoriaeth Busnesau Lleol - 14 Ebrill 2025
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Cronfa Flaenoriaeth Busnesau Lleol 2.
Cronfa Ffyniant Lleoedd UKSPF Castell-nedd Port Talbot
Bydd y Gronfa Ffyniant Lleoedd sy’n agor i geisiadau o fis Ebrill 2025 yn cynnig cyllid cyfalaf a refeniw ar gyfer prosiectau trwy’r ddau linyn canlynol:
- Treftadaeth, Diwylliant, Twristiaeth a Digwyddiadau
- Prosiectau Cyfalaf ar gyfer Adfywio
Cyfanswm y Gronfa ar gyfer y ddau linyn - £2m
Llinyn 1 – Treftadaeth, Diwylliant, Twristiaeth a Digwyddiadau
Dyfarniad grant mwyaf:
- Hyd at £250,000 ar gyfer Ymyriadau Treftadaeth, Diwylliant a Thwristiaeth Strategol
- Hyd at £150,000 ar gyfer Ymyriadau Treftadaeth, Diwylliant a Thwristiaeth ar Raddfa Fach
- Hyd at £10,000 ar gyfer Digwyddiadau Treftadaeth a Diwylliant
Nodau
Cefnogi prosiectau sy’n buddsoddi yn ein treftadaeth a’n diwylliant lleol (gan gynnwys y celfyddydau), sy’n cael effaith gadarnhaol ar lesiant, ar gydlyniant cymunedol, yn mynd i’r afael ag ynysu ac yn hwyluso mynediad at wasanaethau.
Prosiectau cymwys:
Blaenoriaethau’r Gronfa | Gweithgareddau Prosiect Cymwys |
---|---|
1. Gwaith adfer, cadwraeth a chaffael adeileddau rhestredig a hanesyddol bwysig yn y sir. |
|
2. Ehangu hygyrchedd a mynediad i leoliadau, atyniadau ac adeileddau sy’n galluogi preswylwyr ac ymwelwyr i ryngweithio â threftadaeth a diwylliant Castell-nedd Port Talbot. |
|
3. Gwella a dehongli safleoedd, llwybrau ac atyniadau o ddiddordeb treftadaeth a diwylliannol i ddatblygu dealltwriaeth ac apêl y lleoliad/safle/adeiledd ymhlith preswylwyr ac ymwelwyr. (Rhaid datblygu pob dehongliad yn ddwyieithog). |
|
4. Cefnogi sefydliadau gwirfoddol, trydydd sector a chyhoeddus i gryfhau cyfranogiad mewn gweithgareddau treftadaeth, y celfyddydau a diwylliant yn ogystal â mentrau i sicrhau cadernid sefydliadau a arweinir yn wirfoddol yn y sectorau treftadaeth, celfyddydau a diwylliant yn y dyfodol. |
|
5. Cefnogi’r gwaith o gyflawni gwelliannau seilwaith ar lawr gwlad a fydd yn cryfhau apêl gyffredinol Castell-nedd Port Talbot fel cyrchfan cynaliadwy i ymwelwyr ac yn annog arosiadau dros nos ychwanegol yn yr ardal. |
|
6. Gweithgareddau marchnata sy’n ehangu ymwybyddiaeth o dreftadaeth, celfyddydau, diwylliant ac amgylchedd naturiol Castell-nedd Port Talbot ymhlith preswylwyr lleol. Rhaid i gynigion fod ar gyfer safleoedd, lleoliadau neu gynnyrch penodol yn unig ac ni ddylent ymwneud â gweithgareddau marchnata cyrchfan cyffredinol. Rhaid i bob safle sy’n cael ei hyrwyddo fod yn hygyrch i’r cyhoedd. |
|
7. Cynnal astudiaethau dichonoldeb i sefydlu’r achos busnes ar gyfer darparu buddsoddiadau neu fentrau penodol sy’n cysylltu â threftadaeth, y celfyddydau, diwylliant, twristiaeth a digwyddiadau yn y sir. |
|
8. Creu portffolio eang o ddigwyddiadau a gwyliau mawr ac ar raddfa fach sy’n amlygu pwysigrwydd treftadaeth, y celfyddydau, diwylliant a dealltwriaeth amgylcheddol leol yn ardal Castell-nedd Port Talbot, yn cefnogi eu twf yn y dyfodol, ac yn annog arosiadau dros nos yn y sir. |
|
Sefydliadau Cymwys a Lefel y Grant
Ymyriad 1: Ymyriadau Treftadaeth, Diwylliant a Thwristiaeth Strategol
Pwy all wneud Cais | Cyfradd Ymyrryd | Math o Gyllid | Isafswm y Grant | Uchafswm y Grant |
---|---|---|---|---|
Sector Cyhoeddus | Hyd at 100% o gostau’r prosiect | Cyfalaf | £150,001 | £250,000 |
Ymyriad 2: Ymyriadau Treftadaeth, Diwylliant a Thwristiaeth ar Raddfa Fach
Pwy all wneud Cais | Cyfradd Ymyrryd | Math o Gyllid | Isafswm y Grant | Uchafswm y Grant |
---|---|---|---|---|
|
Hyd at 100% o gostau’r prosiect | Cyfalaf a Refeniw | £100 | £150,000 |
Ymyriad 3: Digwyddiadau Treftadaeth a Diwylliant
Pwy all wneud Cais | Cyfradd Ymyrryd | Math o Gyllid | Uchafswm y Grant |
---|---|---|---|
|
Hyd at 100% o gostau’r prosiect | Costau refeniw sy’n ymwneud â marchnata, cyfarpar a chyfranogiad cymunedol mewn digwyddiadau cymunedol a digwyddiadau strategol bwysig yn y sir. | £10,000 |
Llinyn 2 – Prosiectau Cyfalaf Adfywio
Nodau
Mae’r llinyn hwn yn ceisio rhoi sylw i heriau yn ein cymunedau, megis prinder tai, eiddo masnachol a chyfleusterau cyhoeddus o safon ledled Castell-nedd Port Talbot. Nod y gronfa yw creu twf cynaliadwy yn ein cymunedau a’u gwneud yn lleoedd gwell i fyw a gweithio ynddynt ac ymweld â nhw.
Prosiectau Cymwys a Lefel y Grant:
- Unedau Preswyl – Newid arwynebedd llawr ar loriau uwch adeiladau masnachol yn llety preswyl newydd. (Nid yw tai amlddeiliadaeth yn gymwys). Dyfarniadau grant hyd at uchafswm o £20,000 fesul uned dwy ystafell wely a £15,000 fesul uned un ystafell wely
- Prosiectau Adnewyddu Eiddo Masnachol – a luniwyd i ddefnyddio eiddo gwag unwaith eto neu gynyddu neu wella capasiti cyfredol. Bydd gwaith mewnol ac allanol yn gymwys ar gyfer cyllid hyd at uchafswm o £250,000 fesul eiddo
- Seilwaith Gwyrdd – prosiectau sy’n hyrwyddo bioamrywiaeth, a allai gynnwys gerddi cymunedol, toeau/waliau gwyrdd, parciau bach, coed stryd, llecynnau blodau gwyllt, systemau draenio trefol cynaliadwy. Hyd at £250,000 fesul prosiect
- Ynni adnewyddadwy / Prosiectau Uwchraddio – mae cyllid ar gael ar gyfer ymyriadau pwrpasol neu brosiectau uwchraddio ehangach sy’n gwella effeithlonrwydd ynni, e.e. paneli ffotofoltaïg, gosod pympiau gwres o’r ddaear, mannau gwefru cerbydau trydan. Hyd at £100,000 y prosiect
- Gwella Tir y Cyhoedd – cynlluniau ar raddfa fach i wella tir y cyhoedd sy’n cyd-fynd â gwaith adfywio lleol a lle gwelir effaith gymdeithasol ac economaidd amlwg, e.e. dileu neu ollwng cyrbau i hwyluso symud i mewn ac allan, lledu palmentydd er mwyn darparu seddau ac ardaloedd amwynder awyr agored, blychau plannu parhaol ac ati. Hyd at £250,000 fesul prosiect
- Marchnadoedd Cymunedol – datblygu a galluogi marchnadoedd lleol sy’n darparu cynnyrch, crefftau, bwyd a chynhyrchion sy’n ychwanegu gwerth. Mae cyllid ar gael i ddarparu cyflenwad trydan parhaol i alluogi marchnadoedd i fasnachu, prynu stondinau, standiau ac ati. Hyd at £100,000 fesul prosiect
- Trefi Digidol – gwella’r agenda trefi digidol trwy ddarparu eitemau cyfalaf i gefnogi rhwydweithiau dadansoddeg Wi-Fi a Lora Wan. Hyd at £250,000 fesul prosiect
- Prosiectau Teithio Llesol – hwyluso llwybrau teithio llesol trwy ddarparu cyfleusterau storio beiciau, cypyrddau clo a chyfleusterau ymolchi mewn adeiladau masnachol. Hyd at £250,000 fesul prosiect
- Cyfleusterau hamdden – darparu cyfleusterau chwarae awyr agored, mannau chwarae amlddefnydd a gweithgareddau hamdden yn yr awyr agored. Hyd at £250,000 fesul prosiect
- Astudiaethau Dichonoldeb / Arolygon / Cynlluniau / Darluniau ar gyfer datblygu prosiectau cyfalaf i’r dyfodol – mae cyllid ar gael i gefnogi’r gwaith o ddylunio a datblygu prosiectau cyfalaf i’w galluogi i symud ymlaen i gam nesaf y gwaith, e.e. galluogi caffael, cyflwyno cais am ganiatâd cynllunio neu am gyllid pellach. Hyd at £50,000 fesul prosiect. (Bydd angen darparu manylion llawn y prosiect/weledigaeth a gynllunnir yn y cais am gyllid)
Sefydliadau cymwys:
- Awdurdodau lleol / cynghorau tref
- Perchnogion eiddo masnachol / preswyl / tirfeddianwyr / perchen-feddianwyr
- Sefydliadau cymunedol
Amserlen Ddangosol (gallai hyn newid)
Mae’r gronfa’n agor â galwad agored, amser cyfyngedig am Ddatganiadau o Ddiddordeb a Cheisiadau Llawn | 1 Ebrill 2025 |
Dyddiad cau ar gyfer Mynegi Diddordeb | Dydd Gwener, 9 Mai 2025 |
Dyddiad cau ar gyfer Ceisiadau Llawn | Dydd Gwener, 30 Mai 2025 (canol dydd) |
Asesu’r Ceisiadau | Yn dilyn dyddiad cau 30 Mai |
Panel Cyllido (yn gwneud penderfyniadau) | Diwedd Mehefin 2025 |
Cyfnod cyflwyno | Gorffennaf - 31 Rhagfyr 2025 |
RHAID I BOB PROSIECT GAEL EI GWBLHAU ERBYN 31 IONAWR 2026.
I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost i place@npt.gov.uk.
Dolenni defnyddiol
Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU 2025 - 26 Nodyn technegol - mae hwn yn rhoi trosolwg cynhwysfawr o’r Gronfa ac mae i’w weld yn Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU 2025-26: Nodyn technegol - GOV.UK