Rhaglen Balchder Bro
Beth yw Balchder Bro
Mae Rhaglen Balchder Bro yn fenter buddsoddi cymdogaeth 10 mlynedd a gefnogir gan yr Awdurdod Lleol ac Aelod Seneddol a fydd yn grymuso pobl leol i lunio dyfodol eu cymdogaeth ac i drawsnewid eu cymuned. Bydd pob cymdogaeth a ddewisir yn derbyn hyd at £20 miliwn dros 10 mlynedd.
Mae Rhaglen Balchder Bro wedi’i chynllunio i fod:
Dan arweiniad y gymuned
Bydd Byrddau Cymdogaeth, sy’n cynnwys pobl leol yn datblygu Cynlluniau Cymdogaeth Balchder Bro, ynghyd â’r gymuned leol.
Yn hyblyg
Gall Byrddau Cymdogaeth ddewis beth i fuddsoddi ynddo a phryd.
Yn rhaglen tymor hir
Mae Rhagen Balchder Bro’n darparu cyllid dros 10 mlynedd.
Yn gefnogol
Mae Rhaglen Balchder Bro’n bartneriaeth rhwng yr Awdurdod Lleol, yr Aelod Seneddol lleol a’r Bwrdd Cymdogaeth.
Amcanion rhaglen
Cymunedau cryfach
Adeiladu cymunedau cryfach drwy gefnogi gwasanaethau lleol, asedau diwylliannol ac isadeiledd cymdeithasol.
Lleoedd sy’n ffynnu
Mae’r rhaglen yn anelu at greu cymdogaethau bywiog a gwydn lle mae pobl yn teimlo gwir falchder yn eu hawyrgylch lleol. Mae hyn yn cynnwys adnewyddu strydoedd mawr, gwella mannau cyhoeddus a sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn hygyrch, yn ymatebol ac wedi’u llunio i ddiwallu anghenion lleol. Drwy fuddsoddi mewn cyfleoedd i bobl ifanc a blaenoriaethu dulliau atal, mae Rhaglen Balchder Bro’n ceisio lleddfu pwysau tymor hir ar wasanaethau cyhoeddus ac adeiladu sylfeini ar gyfer ffyniant yn y dyfodol.
Rheoli’r sefyllfa eto
Grymuso pobl leol drwy roi rôl bwysicach iddynt wrth lywio penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau, a llais uniongyrchol o ran sut mae cyllid yn cael ei wario, drwy Fyrddau Cymdogaeth sy’n arwain penderfyniadau.
Sut mae Balchder Bro’n gweithio
Mae Rhaglen Balchder Bro’n darparu hyd at £20 miliwn dros 10 mlynedd i ardaloedd dethol ar gyfer gwaith adfywio a arweinir gan y gymuned. Mae’n canolbwyntio ar strydoedd mawr, mannau cyhoeddus a chyfleusterau cymunedol, gan gynnwys prosiectau fel adnewyddu parciau, adfer adeiladau adfeiliedig, gwella gwasanaethau lleol, cefnogi’r celfyddydau a diwylliant, a grymuso cymunedau i reoli asedau lleol.
Prif ffydd o ddefnyddio cyllid Balchder Bro
Adfywio ac isadeiledd
Buddsoddi mewn strydoedd mawr, gwella mannau cyhoeddus a thrawsnewid adeiladau adfeiliedig (e.e., tafarnau neu siopau gwag) yn fannau cyhoeddus defnyddiol.
Asedau a chyfleusterau cymunedol
Gwella canolfannau cymunedol lleol a darparu cyllid ar gyfer prosiectau a arweinir gan y gymuned..
Mannau gwyrdd a diwylliannol
Buddsoddi mewn celfyddydau, diwylliant a phrosiectau treftadaeth lleol a gwella parciau.
Grymuso cymunedol
Cefnogi cynghorau a sefydliadau lleol i gynnal prosiectau, yn aml gyda ‘Hawl Cymunedol i Brynu’ ar gyfer asedau lleol.
Grantiau bach
Mewn rhai ardaloedd, bydd grantiau bach (e.e., hyd at £5,000) ar gael ar gyfer grwpiau nid-er-elw i wneud gwelliannau gweledol i gymdogaethau.
Pwy sy’n penderfynu ble mae’r cyllid yn mynd?
Wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau Balchder Bro mae’r Bwrdd Cymdogaeth, sy’n dod â’r canlynol ynghyd:
- preswylwyr lleol
- Cynghorau
- Aelodau Seneddol
- busnesau
- grwpiau cymunedol
Bydd Byrddau Cymdogaeth yn ymgysylltu â’r gymuned leol er mwyn deall blaenoriaethau ac anghenion, ac ar sail yr ymgysylltiad hwn, byddant yn creu Cynllun Cymdogaeth tymor hir gyda’r hyblygrwydd i gwrdd ag anghenion lleol.
Cymdogaeth Balchder Bro yng Nghastell-nedd Port
Cwm Afan Uchaf yw’r Gymdogaeth Balchder Bro a ddewiswyd yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Mae hyn yn cynnwys:
- Cynonville
- Dyffryn Rhondda
- Abercregan
- Cymer
- Croeserw
- Glyncorrwg
- Abergwynfi
- Blaengwynfi
Bwrdd Cymdogaeth a Chadeirydd
I ddarparu Rhaglen Balchder Bro, caiff Byrddau Cymdogaeth eu sefydlu ym mhob cymdogaeth a ariennir ar draws Cymru a’r DU.
Bydd y Bwrdd yn gyfrifol am ddatblygu Cynllun Cymdogaeth ar gyfer yr ardal erbyn mis Tachwedd 2026, gan osod gweledigaeth 10 mlynedd a chynllun buddsoddi cychwynnol 4 blynedd, gan amlinellu blaenoriaethau ar gyfer sbarduno newid cadarnhaol.
Gall Byrddau Cymdogaeth ddewis beth i fuddsoddi ynddo a phryd. Mae’r Rhaglen wedi’i chynllunio er mwyn i gymunedau lunio cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol, yn hytrach nag aros am fwy o arian i gyrraedd cyn ystyried sut i’w wario.
Bydd pob Bwrdd yn cael ei arwain gan Gadeirydd – rhywun a fydd yn gallu dod â chymunedau at ei gilydd i rannu eu syniadau mewn ffordd agored a chydweithredol.
Bydd y Cadeirydd yn darparu arweinyddiaeth strategol, llywodraethu effeithiol, tryloywder ac atebolrwydd, ac yn cefnogi cydweithredu rhwng rhanddeiliaid, gan sicrhau bod y rhaglen yn parhau i ganolbwyntio ar ei hamcanion ac yn atebol i’r gymuned y mae’n ei gwasanaethu.
Mwy o wybodaeth am y Cadeirydd, gan gynnwys sut i ymgeisio.
Bydd y Cadeirydd yn arwain y broses o recriwtio a chynnull y Bwrdd Cymdogaeth gyda chymorth yr Awdurdod Lleol a’r Aelod Seneddol.
Cynlluniau Cymdogaeth Balchder Bro
Unwaith y bydd wedi’i sefydlu, bydd Byrddau Cymdogaeth yn cyd-greu Cynllun Cymdogaeth Balchder Bro ar y cyd â’r gymuned ehangach, gyda chymorth yr Awdurdod Lleol a’r Aelod Seneddol.
Bydd y Cynllun yn amlinellu gweledigaeth y gymuned ar gyfer newid dros y 10 mlynedd nesaf.
Agweddau allweddol cynllun Cymdogaeth Balchder Bro
Ariannu a hyd
Mae’r fenter yn darparu buddsoddiad tymor hir dros 10 mlynedd, gan anelu at fynd i’r afael ag ‘anfantais ddwbl’ (amddifadedd uchel ac isadeiledd cymdeithasol gwan).
Byrddau a arweinir gan y gymuned
Gwneir penderfyniadau gan Fyrddau Cymdogaeth lleol sy’n cynnwys preswylwyr, busnesau lleol, grwpiau gwirfoddol ac aelodau etholedig, gan sicrhau bod ganddynt y pŵer i benderfynu sut y caiff arian ei wario.
Meysydd ffocws
Defnyddir y cyllid i wella mannau cyhoeddus, cefnogi busnesau lleol, lleihau trosedd, gwella cydlyniant cymunedol ac adfywio strydoedd mawr.
Ehangu
Yn dilyn cynlluniau peilot cychwynnol, mae’r rhaglen wedi’i hehangu, ac ychwanegwyd 40 maes newydd at y fenter (mis Chwefror 2026) mewn cyhoeddiadau diweddar.
Integreiddio gyda chynlluniau presennol
Mae’r strategaeth yn adeiladu ar fentrau blaenorol, gan ymgorffori ‘Cynllun ar gyfer Cymdogaethau’ a’r ‘Cynllun Hirdymor ar gyfer Trefi’ i ffurfio ymagwedd gydlynol, tymor hir tuag at adnewyddu cymunedol.
Bydd yn ofynnol i Fyrddau Cymdogaeth gwblhau ymgysylltiad sylweddol â’r gymuned er mwyn sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed.
Amserlenni
- 1 Mehefin 2026 - Penodi Cadeirydd
- 17 Gorffennaf 2026 - Bwrdd Cymdogaeth i gadarnhau aelodaeth terfynol
- 30 Tachwedd 2026 - Bydd y Bwrdd Cymdogaeth yn cyflwyno Cynllun Cymdogaeth Balchder Bro i Lywodraeth y DU i’w asesu a’i gymeradwyo
Cysylltwch â ni
Ar gyfer ymholiadau, e-bostiwch: place@npt.gov.uk
Dogfennau allweddol
Bydd agenda a chofnodion cyfarfodydd y Bwrdd Cymdogaeth yn cael eu cyhoeddi yma.
