Ciosg Aquasplash, Glan Môr Aberafan
Gwahoddir tendrau
Mae cyfle wedi codi i ddarpar weithredwyr weithio mewn ciosg arlwyo sydd newydd gael ei adnewyddu yng nghyfadeilad Aquasplash mewn lleoliad poblogaidd iawn ar hyd glan môr Aberafan.
Amodau'r brydles
- Dechrau o ddyddiad i’w gadarnhau tan 31 Mawrth 2030
- I'w weithredu trwy gydol y flwyddyn
- Mae ardal y brydles yn cynnwys cegin gyda storfa ac ardal eistedd fewnol
- Mae'n cynnwys ardal eistedd allanol ddynodedig
- I'w ddefnyddio fel ciosg arlwyo
- Caniateir ffyrnau bach pen bwrdd ar gyfer paratoi bwyd poeth
- Caniateir cludfwyd
Cyflwynwch dendr
Peidiwch â cholli’r cyfle hwn i brydlesu ciosg o safon uchel mewn lleoliad poblogaidd Cysylltwch â ni er mwyn trefnu gweld y ciosg neu cyflwynwch dendr drwy https://etenderwales.ukp.app.jaggaer.com/home.html
Y cod ITT ar etenderwales yw itt_124480
Tendrau i'w cyflwyno erbyn 12 ganol dydd ar 29 Mai 2026