Hen ganolfan gymunedol Llandarcy
Mynegiant o Ddiddordeb
Y dyddiad cau yw 31 Hydref 2025 am hanner dydd
Beth sydd ar gael
Mae cyfle cyffrous wedi codi i:
- unigolion
- sefydliadau
- grwpiau cymunedol
i fynegi eu diddordeb i lesio a rheoli Cyn Canolfan Gymunedol Llandarcy.
Wedi'i hadeiladu tua 1920, roedd y ganolfan ar un adeg yn canolbwynt Pentref Llandarcy. Caeodd y ganolfan yn 2015 ac mae bellach ar gael i'w rhentu at ddefnydd hyfyw a chynaliadwy sydd o fudd i'r gymuned leol.
Gofynion
Rydym yn gwahodd cynigion sydd yn:
- amlinellu eu defnydd arfaethedig
- sut y mae'n cyd-fynd â gofynion cynllunio
- cyfrannu'n gadarnhaol at yr ardal leol
Bydd angen caniatâd cynllunio ar gyfer unrhyw ddefnydd amgen y tu allan i'r dosbarthiad D1.
Sut i wneud cais
I fynegi eich diddordeb, cyflwynwch gynnig byr sy’n cynnwys:
- eich defnydd arfaethedig i'r adeilad
- sut mae'n bodloni gofynion cynllunio
- y manteision y bydd yn eu dwyn i'r gymuned
Anfonwch eich cynnig i: a.nicholas@npt.gov.uk
Cysylltwch â ni
Am fwy o fanylion neu i drafod eich cynnig, cysylltwch â: