Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Hen Llyfrgell Castell-nedd

Mae cyfle cyffrous ar gael i ddarpar weithredwyr wneud cais i'r cyngor i fynegi diddordeb mewn defnyddio hen lyfrgell Castell-nedd yng Ngerddi Victoria, Castell-nedd.

Caeodd hen lyfrgell Castell-nedd ym mis Mawrth 2023, ar ôl i'r llyfrgell newydd gael ei hagor yn y datblygiad hamdden a manwerthu a oedd newydd ei adeiladu yng nghanol tref Castell-nedd. Adeiladwyd yr adeilad rhestredig Gradd II ym 1904 ac mae'n elfen flaenllaw a hanesyddol o’r dref.

Ar hyn o bryd, mae'r cyngor yn archwilio opsiynau adnewyddu ac yn ceisio pennu gweithredwr a ffefrir yn gynnar. Bydd y gweithredwr llwyddiannus yn cael y cyfle i brydlesu a rheoli'r adeilad, gan gyflwyno defnydd hyfyw a chynaliadwy.

Sylwer mai D1 (sefydliadau amhreswyl) yw'r dosbarth defnydd cynllunio presennol a bydd angen caniatâd cynllunio ar gyfer unrhyw ddefnydd amgen i'r dosbarthiad hwn.

Gwahoddir partïon â diddordeb i gyflwyno mynegiant o ddiddordeb sy'n amlinellu eu defnydd arfaethedig ar gyfer yr adeilad, gan gynnwys sut mae'n cyd-fynd â gofynion cynllunio ac yn cyfrannu at fywiogrwydd canol tref Castell-nedd. 

Mae angen cyflwyno mynegiannau o ddiddordeb erbyn 12 ganol dydd ar 10 Hydref 2025 drwy e-bostio a.nicholas@npt.gov.uk

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch drwy'r manylion isod:

Andrea Nicholas
(01639) 686981 (01639) 686981 voice +441639686981
Hen llyfrgell Castell-nedd Hen llyfrgell Castell-nedd

Rhannu eich Adborth