Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Tacsis a thrwyddedu preifat

Mae'r Awdurdod Trwyddedu'n gyfrifol am osod amodau a rhoi trwyddedau ar gyfer cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat i sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn gyfforddus a bod eu gyrwyr yn bobl addas a phriodol fel a nodwyd yn Neddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976.

Sut i gyflwyno cais

Mae'r Awdurdod Trwyddedu wedi mabwysiadu polisi trwyddedu tacsis sy'n cynnwys gwybodaeth am sut i wneud cais am drwydded a hefyd fanylion amodau ac amodau ar gyfer cerbydau, gyrwyr a gweithredwyr. 

Llenwch wiriad treth

Os ydych chi'n unigolyn, yn gwmni neu'n unrhyw fath o bartneriaeth mae'n rhaid i chi gwblhau gwiriad treth os ydych chi'n gwneud y canlynol:

  • adnewyddu trwydded
  • gwneud cais am yr un math o drwydded a oedd gennych yn flaenorol, a oedd wedi dod i ben llai na blwyddyn yn ôl
  • gwneud cais am yr un math o drwydded sydd gennych eisoes gydag awdurdod trwyddedu arall

Llenwch wiriad treth ar gyfer trwydded tacsi neu hurio preifat

Pan fyddwch wedi cwblhau’r gwiriad treth, byddwch yn cael cod sy’n 9 cymeriad. Dyma’ch cod gwirio treth. Rhaid i chi ei roi i ni gyda’ch cais am drwydded. Ni allwn prosesu’ch cais hebddo.

Gwneud cais am neu adnewyddu trwydded gerbyd

Os yw'ch cerbyd yn cael ei ddefnyddio fel tacsi neu gerbyd hurio preifat, mae'n rhaid i chi gael trwydded.

Cyn i chi ddechrau

Ceisiadau newydd

Ar gyfer ceisiadau newydd bydd angen:

  • eich enw a'ch manylion cyswllt
  • manylion eich cerbyd
  • gwybodaeth am eich yswiriant
  • manylion unrhyw euogfarnau gyrru neu droseddau a allai fod gennych

Adnewyddiadau

Ar gyfer adnewyddiadau, bydd angen:

  • rhif eich plât
  • dyddiad y daw eich trwydded i ben
  • eich enw a manylion cyswllt
  • manylion eich cerbyd
  • gwybodaeth eich yswiriant
  • manylion unrhyw euogfarnau gyrru neu droseddau a allai fod gennych

Dogfennau ategol

Ar gyfer ceisiadau newydd ac adnewyddiadau, bydd angen i chi hefyd uwchlwytho eich:

  • tystysgrif yswiriant
  • llyfr cofrestru cerbydau (V5C)
Rhaid i ffeiliau fod yn PNG, JPG neu JPEG

Llawrlwytho

  • Application for vehicle operator's licence (PDF 164 KB)
  • Application for a transfer of vehicle (PDF 139 KB)
  • Medical report on an application for a driver's licence (PDF 256 KB)
  • Polisi trwyddedu tacsis (DOC 2.07 MB)
Lawrlwythwch...
Pecynnu:  
Cwblhau

Rhannu eich Adborth