Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Cyfranogiad y cyhoedd yng nghyfarfodydd y Cyngor

Gall y cyhoedd gymryd rhan mewn amryw o gyfarfodydd y Cyngor a Phwyllgorau a gynhelir gan y Cyngor.

Cynhelir ein holl gyfarfodydd cyhoeddus drwy ein system hybrid. Mae hyn yn golygu y gallwch ddewis a ydych am fynychu'r cyfarfod yn bersonol neu ar-lein.

Os ydych yn dymuno mynychu un o'n cyfarfodydd, bydd angen i chi e-bostio eich cais at y Gwasanaeth Democrataidd.

Yna byddwn yn anfon dolen Microsoft Teams ar gyfer y rhai sy'n dymuno ymuno ar-lein. Os ydych yn mynychu yn bersonol, bydd angen i chi fynd i Siambr y Cyngor yng Nghanolfan Ddinesig Port Talbot.

Rhannu eich Adborth