Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Cyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio

Mae gan aelodau'r cyhoedd yr hawl i siarad yn ystod cyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio.

Darllenwch ein canllaw i siarad cyhoeddus yn y Pwyllgor Cynllunio. Mae hyn yn esbonio'r broses a sut i gofrestru i siarad.

Canllaw i siarad yn gyhoeddus yn y Pwyllgor Cynllunio

Y Pwyllgor Cynllunio sy'n penderfynu ar y ceisiadau cynllunio mawr, y mwyaf cymhleth neu fwy dadleuol yn y Fwrdeistref Sirol.

Fel arfer cynhelir cyfarfodydd y Pwyllgor ar ddydd Mawrth am 10am yn Siambr y Cyngor, yn y Ganolfan Ddinesig, Port Talbot, SA13 1PJ, ac maent yn agored i'r cyhoedd. Mae modd cael mynediad i gyfarfodydd y Pwyllgor ar-lein hefyd gan ddefnyddio Microsoft Teams.

Mae gan y cyhoedd hawl i fynychu’r cyfarfod ac annerch y Pwyllgor yn unol â phrotocol cymeradwy’r Cyngor.

Pwy sy'n gallu siarad yn y Pwyllgor

Mae siarad yn gyfyngedig i un person o blaid ac un person yn erbyn cais.

Os bydd mwy nag un person yn dymuno siarad naill ai o blaid neu yn erbyn cais, dylid enwebu llefarydd. Os na ellir dod i gytundeb ar enwebu llefarydd yna bydd yr hawl i siarad yn disgyn ar y person(au) cyntaf i gofrestru cais i siarad o blaid a/neu yn erbyn y cynnig.

Pan ganiateir i berson siarad yn erbyn cynnig, yna caniateir i'r Ymgeisydd neu'r Asiant yr hawl i ymateb.

Dylai person sy'n dymuno siarad mewn Pwyllgor Cynllunio fod:

  • gwrthwynebydd neu lefarydd ar ran grŵp o wrthwynebwyr sydd â diddordeb gwirioneddol mewn mynegi barn ar rinweddau cynllunio cais
  • yn gefnogwr o gais, neu lefarydd ar ran grŵp o gefnogwyr
  • ymgeisydd (neu asiant enwebedig yr ymgeisydd) ar gyfer y cais cynllunio – dim ond lle mae gwrthwynebydd wedi nodi a siarad yn flaenorol yn y cyfarfod (h.y. mae’n hawl i ymateb)​

Yn ogystal, gall Aelodau Etholedig nad ydynt yn eistedd ar y Pwyllgor Cynllunio fynychu’r cyfarfod ac arfer eu hawl i siarad yn unol â’r gweithdrefnau cyfredol a nodir yn y Cyfansoddiad.

Cofrestru i siarad

Os hoffech siarad yn y Pwyllgor Cynllunio ar gais cynllunio penodol, rhaid i chi gysylltu â'r Gwasanaeth Democrataidd yn ysgrifenedig neu drwy e-bost.

Mae'n rhaid ichi:

  • gwneud cais i siarad ddim hwyrach na dau ddiwrnod gwaith cyn dyddiad y cyfarfod
  • nodwch yn glir rif yr eitem neu rif y cais yr hoffech siarad arno
  • cadarnhau a ydych yn cefnogi neu'n gwrthwynebu'r cais

Os bydd gwrthwynebydd yn cofrestru i siarad bydd y Cyngor yn hysbysu’r Ymgeisydd/Asiant o’u gallu i annerch y pwyllgor (eu hawl i ymateb).

Pe bai'r ymgeisydd/asiant yn dymuno arfer yr hawl honno, bydd angen cadarnhau hyn i'r Adran Gwasanaethau Democrataidd cyn hanner dydd ar y diwrnod cyn y cyfarfod.

Beth allwch chi ei ddweud wrth y Pwyllgor

O dan y gyfraith gynllunio, dim ond sylwadau ar faterion cynllunio y gallwn eu hystyried. Er enghraifft, mae'r rhain yn cynnwys:

  • colli golau neu breifatrwydd
  • diogelwch y Ffordd Fawr
  • materion traffig a pharcio
  • sŵn
  • amwynder
  • llygredd
  • cadwraeth
  • bywyd gwyllt
  • dyluniad ac ymddangosiad y datblygiad

Nid yw hon yn rhestr gyflawn.

Mae'r materion na ellir eu hystyried yn cynnwys:

  • colli golygfa
  • effaith ar werthoedd eiddo
  • hawliau preifat
  • cyfamodau
  • anghydfodau ffiniau

Yn ogystal â'i Bolisïau Cynllunio ei hun, mae'n rhaid i Fwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ystyried Polisïau a chanllawiau Llywodraeth Cymru. Efallai y byddwch hefyd am gyfeirio at y rhain.

Rhaid i chi beidio â gwneud datganiadau sy'n bersonol, yn sarhaus neu'n ymosodol.

Cadwch eich cyfeiriad yn fyr, yn berthnasol ac i'r pwynt.

Ni chaniateir defnyddio cymhorthion gweledol, dosbarthu cynlluniau, ffotograffau na deunydd arall yng nghyfarfod y Pwyllgor.

Beth sy'n digwydd yn y cyfarfod

  1. Dylai pobl sydd wedi cofrestru i siarad gyrraedd dim hwyrach na phymtheg munud cyn i'r cyfarfod ddechrau. Os byddwch yn mynychu yn bersonol, bydd clerc yn cynghori ar drefniadau eistedd ac yn ateb unrhyw ymholiadau.
  2. Bydd Cadeirydd y Pwyllgor yn agor y cyfarfod
  3. Fel arfer, bydd eitemau lle mae pobl wedi cofrestru i siarad, yn cael eu cymryd gyntaf ar yr agenda a byddant yn dilyn y weithdrefn a nodir isod yn llym:
    • Bydd yr eitem yn cael ei chyflwyno gan y Swyddog Cyflwyno a fydd yn rhoi cyflwyniad ffurfiol o'r eitem, gan ddod i ben gydag argymhelliad ffurfiol;
    • Bydd y Cadeirydd wedyn yn gwahodd, yn ei dro, y Gwrthwynebydd a/neu Gefnogwr i siarad am uchafswm o bum munud* yr un;
    • Bydd y Cadeirydd yn gwahodd yr Ymgeisydd/Asiant i annerch y Pwyllgor mewn ymateb i'r gwrthwynebydd am uchafswm o *5 munud;
    • Bydd terfynau amser yn cael eu cadw yn llym;
    • Ymateb gan Swyddogion i'r pwyntiau a godwyd os bydd angen;
    • Ystyried a thrafod gan Aelodau cyn dod i benderfyniad;
    • Ni chaiff y Gwrthwynebydd/Cefnogwr neu’r Ymgeisydd/Asiant gymryd rhan yn ystyriaeth yr Aelodau o’r cais ac ni chaiff ofyn cwestiynau;
    • Os bydd y Gwrthwynebydd sydd wedi'i gofrestru i siarad yn methu â mynychu a/neu siarad, ni chaniateir i'r Ymgeisydd/Asiant siarad;
    • Os bydd y Gwrthwynebydd neu Gefnogwr sydd wedi cofrestru i siarad yn cyrraedd ar ôl y toriad o bymtheg munud, bydd eu cyfle i siarad yn cael ei golli;
    • Os bydd cais yn cael ei ohirio i'r Pwyllgor Cynllunio ymweld â'r safle, bydd y gwrthwynebydd a/neu'r cefnogwr yn cael cyfle i siarad pan fydd yr eitem yn cael ei hailgyflwyno i'r Pwyllgor yn dilyn ymweliad y safle. Bydd yr Ymgeisydd/Asiant hefyd yn cael cyfle i siarad mewn ymateb i'r gwrthwynebiad yn y cyfarfod gohiriedig hwnnw;
    • Yn y cyfarfod, ni ddylech dorri ar draws siaradwr arall yn nadl y Pwyllgor
  1. Ni fydd ceisiadau hwyr i siarad yn cael eu derbyn fel arfer, er mewn amgylchiadau eithriadol gellir eu cymryd gyda chytundeb penodol y Cadeirydd a’r Pwyllgor.
  2. Ni fydd cais gerbron y Pwyllgor yn cael ei ohirio os nad yw person sydd i fod i siarad yn gallu bod yn bresennol. Mae hyn yn berthnasol i bobl o blaid neu yn erbyn y cais a'r ymgeisydd/asiant. Gellir enwebu siaradwyr wrth gefn yn lle'r person na all fod yn bresennol. Os na phenodir siaradwyr wrth gefn, gan ddibynnu a oedd y sawl a oedd i fod i siarad o blaid neu yn erbyn y cais, bydd y cyfle i siarad yn disgyn i’r person nesaf yn y categori hwnnw sydd wedi cofrestru ei gais i siarad

Sylwer: * Mae Cyfansoddiad y Cyngor yn darparu am gyfanswm o bum munud o amser ar gyfer sylwadau (uchafswm o bum munud yr un i wrthwynebwyr ac ymgeiswyr a chefnogwyr). Mae gan y Cadeirydd ddisgresiwn bob amser ynghylch a yw person yn siarad ai peidio â mae ganddo ddisgresiwn i ganiatáu amseroedd siarad hirach os yw'n briodol.

Ar ôl i chi siarad

Ar ôl i'ch pum munud ddod i ben, byddwch yn gallu aros i wrando ar y ddadl o fewn Cyfarfod y Pwyllgor.

Ar ôl i'r ddadl ddod i ben, bydd yr Aelodau'n cael argymhelliad ac yn pleidleisio ar yr argymhelliad hwnnw.

Bydd penderfyniad y Pwyllgor yn cael ei gyfleu’n glir ar lafar i’r rhai sy’n bresennol yn y Pwyllgor.

Os nad ydych yn aelod o'r Pwyllgor Pleidleisio, gallwch adael cyfarfod y Pwyllgor ar unrhyw adeg.

Manylion cyswllt

Os hoffech annerch y Pwyllgor Cynllunio, rhowch eich cais yn ysgrifenedig i'r Gwasanaeth Democrataidd (nodwch yn eich cais os ydych yn dymuno bod yn bresennol yn bersonol neu ar-lein):

Drwy'r post: Y Gwasanaeth Democrataidd, Y Ganolfan Ddinesig, Port Talbot, SA13 1PJ

Trwy e-bost: democratic.services@npt.gov.uk

Unwaith y bydd hyn wedi'i wneud, bydd y Gwasanaeth Democrataidd yn ymateb gyda'r wybodaeth angenrheidiol y bydd ei hangen arnoch i gymryd rhan yn y cyfarfod.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y gweithdrefnau uchod neu os hoffech gael copi o'r cynllun llawn, cysylltwch â'r Tîm Gwasanaethau Democrataidd.

Gwefan: www.npt.gov.uk

Cyfieithu/gofynion arbennig

Os hoffech gael y wybodaeth hon mewn fformat gwahanol, er enghraifft mewn print bras neu Gymraeg, cysylltwch â'r Gwasanaethau Cynllunio, Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd, Y Cei, Ffordd Brunel, Parc Ynni Baglan, SA11 2GG.

Rhannu eich Adborth