Deisebau
Dogfennau yw deisebau (boed electronig neu gorfforol) sy'n cynnwys manylion materion sy'n bwysig i gymunedau Castell-nedd Port Talbot, wedi'u llofnodi gan etholwyr lleol sydd yn cefnogi'r camau arfaethedig.
Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi cynllun Deisebau Cynllun Deisebau (yn unol â Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021).
Cyn cyflwyno deiseb, dylai'r preswylwyr:
- cysylltu â'r Cyngor i weld a fyddai cais am wasanaeth arferol yn datrys y mater
- cysylltu â’r Cynghorydd(wyr) y ward perthnasol i weld a allant helpu
Mae e-ddeisebau yn rhan o ymrwymiad parhaus y Cyngor i wrando ar farn y cyhoedd a gweithredu arnynt.
e-Deisebau
Mae e-Ddeiseb yn ddeiseb sy'n casglu llofnodion ar-lein. Mae hyn yn caniatáu i ddeisebau a gwybodaeth ategol fod ar gael i gynulleidfa a allai fod yn llawer ehangach na deiseb draddodiadol ar bapur.
Gall unrhyw un sy'n byw, yn gweithio neu'n astudio yn yr ardal gyflwyno neu lofnodi e-Ddeiseb.
Mae e-Ddeisebau yn rhan o ymrwymiad parhaus y Cyngor i wrando ar farn y cyhoedd a gweithredu arnynt.
Cyflwyno e-Ddeiseb
Ar hafan yr e-Ddeiseb, dewiswch yr opsiwn ‘Cyflwyno e-Ddeiseb newydd’. I gyflwyno e-Ddeiseb bydd angen i chi fod yn ddefnyddiwr cofrestredig. Mae cofrestru yn broses syml sy'n gofyn i chi ddarparu'ch manylion:
- enw
- cyfeiriad
- cod post
- cyfeiriad e-bost dilys rhag ofn y bydd angen i ni gysylltu â chi am yr e-Ddeiseb
I wneud hyn, bydd angen i chi ddewis 'Cofrestru fel defnyddiwr newydd' drwy'r ddolen 'cyflwyno e-Ddeiseb newydd'.
Ar ôl cofrestru, gofynnir i chi nodi teitl y bydd y system yn ei wirio'n awtomatig yn erbyn e-Deisebau presennol er mwyn eich galluogi i weld a yw un tebyg wedi'i ystyried yn ddiweddar. Yna bydd angen i chi lenwi'r ffurflen ar-lein.
Bydd hyn yn cael ei gyflwyno i'r tîm Gwasanaethau Democrataidd a all gysylltu â chi i drafod eich e-Ddeiseb cyn iddi fynd yn fyw. Gall gymryd hyd at 10 diwrnod i'ch eDdeiseb gael ei chyhoeddi ar-lein.
Gall e-ddeiseb ymwneud ag unrhyw fater y mae gan y Cyngor bwerau neu ddyletswyddau arno neu y mae ganddo gyfrifoldebau cyflawni ar y cyd arno trwy drefniant partneriaeth.
Cefnogi e-Ddeiseb
I gefnogi e-Ddeiseb bresennol dewiswch e-Ddeiseb ac ychwanegwch eich enw, cyfeiriad a chyfeiriad e-bost.
I wneud hyn, dewiswch 'Pori'r holl e-Ddeisebau cyfredol a rhai sydd wedi'u cwblhau'. Sicrhewch eich bod yn rhoi ystod ddilys o ddyddiadau wrth chwilio am e-Ddeiseb.
I gael rhagor o wybodaeth am y mater, gweler y wybodaeth ategol, a ddarparwyd gan y prif ddeisebydd, sydd ynghlwm wrth yr e-Ddeiseb.
Deiseb papur
Efallai yr hoffech chi hefyd gychwyn deiseb bapur, mae hyn yn gweithio yn union yr un ffordd ag eDdeiseb ac eithrio bod yn rhaid i chi roi'r ddeiseb i'r Cyngor neu ei chyflwyno i gynghorydd.
Ymwadiad
Nid yw'r Cyngor hwn yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am y deisebau ar y tudalennau gwe hyn. Nid yw'r safbwyntiau a fynegir yn y deisebau o reidrwydd yn adlewyrchu rhai'r darparwyr.