Gwyliwch Pwyllgorau eraill yn fyw
Gallwch nawr wylio cyfarfodydd Pwyllgorau Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn fyw ar-lein gan ddefnyddio Microsoft Teams.
Ar gyfer pob cyfarfod Pwyllgor y Cyngor, darperir dolen i'r ffrydio byw ar frig yr agenda ar gyfer pob cyfarfod. I gael mynediad at agendâu cliciwch ar y Pwyllgor yr hoffech ei weld, a dewis "Pori cyfarfodydd ac agendâu ar gyfer y Pwyllgor hwn". Cliciwch ar y ddolen ar frig dogfen yr agenda i gael mynediad at y ffrydio. Gweler y rhestr lawn o Bwyllgorau.
Noder y bydd rhai cyfarfodydd yn mynd i mewn i sesiynau preifat lle mae gwylio cyhoeddus wedi'i wahardd. Yn yr achosion hyn, bydd y ffrydio'n dod i ben. Os ceisiwch ymuno â ffrydio ond bod y cyfarfod wedi dod i ben neu eisoes wedi symud i breifat, bydd hysbysiad yn dweud nad yw'r digwyddiad yn fyw. Mae recordiadau o bob cyfarfod cyhoeddus ar gael ar dudalen Youtube y Cyngor.