Cyllideb gyfalaf a rhaglen gyfalaf
Mae’r cyngor yn rhoi pwyslais mawr ar bwysigrwydd buddsoddi cyfalaf fel modd i adfywio ein cymunedau a darparu adeiladau a seilwaith modern, diogel. Mae buddsoddi cyfalaf nid yn unig yn arwain at well cyfleusterau a gwasanaethau, ond hefyd yn creu swyddi a manteision economaidd i bobl a busnesau leol.
Cyfanswm Rhaglen Gyfalaf 2025/26 yw rhyw £67.7m.
O ble mae’r arian yn dod?
O gyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru, o dderbyniadau cyfalaf a benthyca darbodus: £22.6m.
O ffynonellau allanol eraill: £45.1m. Dyma'r arian y mae'r cyngor wedi gwneud cais llwyddiannus amdano, er gwaethaf cystadlaethau gan sefydliadau eraill. Dim ond at ddibenion penodol y gellir defnyddio'r cyllid hwn.
Mae'n gyllid, er enghraifft, i'n helpu i wireddu ein dyheadau adfywio ar draws y fwrdeistref sirol ac arian ar gyfer prosiectau gwella yn ein cymunedau na fyddent fel arall byth yn digwydd.
Enghraifft o'r math hwn o gyllid yw'r Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif lle mae Llywodraeth Cymru yn ariannu 65% o gost unrhyw fuddsoddiad gyda'r 35% sy'n weddill yn cael ei ariannu gan y Cyngor.
Ble mae’r arian yn mynd?
Mae’r arian yn cael ei ddyrannu i amrywiaeth o brosiectau buddsoddi, gan gynnwys:
- cynnal adeiladau
- ysgolion newydd
- priffyrdd a gwelliannau i gymdogaethau megis cynnal a chadw pontydd a strwythurau eraill
- cyllid i wella’n ffyrdd
- Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl i alluogi pobl i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain
Mae’r cyngor yn falch o’i lwyddiant hanesyddol i ddenu arian cyfalaf a chyflawni prosiectau o ansawdd uchel yn brydlon ac o fewn y gyllideb, a bydd yn parhau i wneud hynny i’r dyfodol.
Gallwch ddarllen mwy am y Rhaglen Gyfalaf 2025-26 (Yn Saesneg).