Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cyllideb refeniw’r Cyngor

Cyn dechrau pob blwyddyn ariannol, mae'n rhaid i'r cyngor osod cyllideb ar gyfer ei wariant o ddydd i ddydd - y gyllideb refeniw. Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i’r cyngor osod cyllideb gytbwys sy’n golygu na all y gwariant fod yn fwy nag incwm y cyngor.

Cyllideb Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar gyfer 2025-26 yw £405.3m

O ble mae'r arian yn dod?

Daw cyllid y cyngor o ddwy brif ffynhonnell:

  • grantiau Llywodraeth Cymru
  • Treth y Cyngor
Revenue budget 2025/26 Revenue budget 2025/26

Mae'r cyngor yn defnyddio ei gyllideb i ddarparu cannoedd o wasanaethau gwahanol i drigolion y fwrdeistref sirol. Mae rhai yn amlwg iawn megis casglu gwastraff a chynnal a chadw ffyrdd.

Mae gwasanaethau eraill yn aml yn mynd heb eu gweld, fel:

  • darparu gofal maeth i blant
  • gofalu am bobl hŷn a bregus
  • cynnal arolygiadau hylendid bwyd
  • ei gyfraniad i Wasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru
  • darparu addysg i blant ag anghenion arbennig

Mae mwy o fanylion yn Adroddiad Cyllideb Refeniw 2025-26 y cyngor.

Dysgwch fwy am sut mae’r gyllideb yn cael ei gwario.