Cyfrifon 2024-2025
Cwblhau Cyfrifon - Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
HYSBYSIR drwy hyn fel a ganlyn:
Gan gydymffurfio â’r Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio, mae’r Archwilydd Penodedig wedi ardystio bod Archwiliad Cyfrifon Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2025 wedi ei gwblhau yn unol â Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 a’r Cod Ymarfer Archwilio a gyhoeddwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Yn unol â’r darpariaethau yn y Rheoliadau uchod, gellir gweld y Datganiad o Gyfrifon ar wefan y cyngor, www.npt.gov.uk. Neu gellir archwilio copïau drwy apwyntiad, yn y Gyfarwyddiaeth Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol, Canolfan Dinesig, Port Talbot, SA13 1PJ.
Dyddiedig 10 Medi 2025
F O'Brien
Prif Weithredwr
Canolfan Dinesig, Port Talbot.
Llawrlwythiadau
-
Final Annual Governance Statement 2024-2025 (PDF 1.49 MB)
-
Statement of Accounts 2024/25 (PDF 3.10 MB)
-
Margam Crematorium Annual Return 2024/25 (PDF 215 KB)