Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Sut mae'r gyllideb refeniw yn cael ei gwario

Mae'r gyllideb yn cael ei gwario ar gannoedd o wahanol wasanaethau i drigolion a busnesau.

Mae tua dwy ran o dair (£282.7m/70%) yn cael ei wario ar Ysgolion / Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Caiff y gweddill ei wario ar:

  • Gwasanaethau Amgylchedd a Rheoleiddio
  • Gwasanaethau Democrataidd
  • Adnoddau Dynol
  • Gwasanaethau Digidol
  • Cyfraniadau i sefydliadau allanol ac ati.
How the revenue budget is spent 2025/26 How the revenue budget is spent 2025/26

Cyfarwyddiaeth Addysg a Dysgu Gydol Oes (AADGO)

Mae'r gyllideb yn darparu buddsoddiad o £121.129m ar gyfer y gyllideb ysgolion ddirprwyedig a £34.331m i'r Gyfadran Addysg a Dysgu Gydol Oes – cynnydd o £14.671m ar gyfer ysgolion a £1.206m ar gyfer AADGO o gymharu â'r llynedd.

Bydd y buddsoddiad hwn yn cael ei ddefnyddio i addysgu tua 22,000 o blant a phobl ifanc ac i fynd i’r afael â materion penodol fel absenoldeb parhaus, i ateb pwysau sylweddol am leoedd cynlluniedig arbenigol i blant a phobl ifanc ag anghenion cymhleth ac i sicrhau bod pob disgybl yn cael y ddarpariaeth arbenigol briodol ar gyfer eu hanghenion. Ar hyn o bryd mae bron pob un o'r darpariaethau arbenigol yn llawn. Yn hanesyddol, mae ysgolion uwchradd yng Nghastell-nedd Port Talbot wedi bod ymhlith y rhai sy’n cael eu tanariannu fwyaf yng Nghymru a bydd y gyllideb arfaethedig hon yn mynd i’r afael â hyn.

Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol

Mae cynigion y gyllideb yn darparu buddsoddiad o £127.219m, cynnydd o £13.520m neu 11.9% o gymharu â 2024/25.

Bydd y buddsoddiad hwn yn cael ei ddefnyddio i gefnogi 2,400 o blant agored i niwed a’u teuluoedd, mwy na 2,500 o oedolion sydd angen gofal a chymorth a 250 o bobl sy’n ddigartref neu mewn perygl o ddod yn ddigartref. Bydd hefyd yn cynyddu nifer y lleoliadau ar gyfer y rhai ag anghenion cymhleth, yn cynnal gweithlu gofal cymdeithasol sefydlog ac yn cyfrannu rhywfaint at wrthbwyso costau cynyddol gofal.

Wrth baratoi cyllideb arfaethedig 2025/26, gwrandawodd Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn ofalus ar farn trigolion. Ac yn dilyn ymgysylltu â’r cyhoedd, mae nifer o gynigion wedi’u gollwng gan gynnwys cyflwyno casgliadau gwastraff bob tair wythnos, cael gwared ar finiau olwyn a chyflwyno taliadau gwastraff gwyrdd (arbed £730,000), lleihau’r gweithlu gwasanaethau cymdogaeth (£379,000), lleihau’r tîm atgyweirio priffyrdd a chyllideb cynnal a chadw priffyrdd (£210,000) ac adennill ar unwaith gostau llawn glanhau ysgolion – bellach dros gyfnod o ddwy flynedd.

Mwy o wybodaeth

Darllenwch adroddiad llawn y Gyllideb.

Darllenwch fwy am ein hymgyrch "Dewch i ni Dal i Siarad" a beth ddywedodd pobl wrthym.