Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Cyngerdd Cofio'r Maer 2025 - Parcio ar gyfer y Digwyddiad

Lleolir 3 maes parcio gerllaw’r Neuadd Fawr.  

Gweithredir y meysydd parcio gan drydydd parti, felly cofiwch dalu sylw i’r telerau ac amodau sydd ar waith ynddyn nhw, ac y gallai peidio â chydymffurfio â’r rheolau arwain at Hysbysiad Tâl Parcio. 

Maes Parcio Ymwelwyr Campws y Bae a Stiwdios y Bae

Mae 80 lle parcio i geir yn y maes parcio i ymwelwyr yng Nghampws y Bae. Bydd parcio ychwanegol i’w gael ar safle Stiwdios y Bae (gyferbyn â’r campws). 

Lleolir peiriannau Talu ac Arddangos yn y meysydd parcio, ond os yw’n well gennych dalu ar lein, gallwch wneud hynny drwy fynd i:  https://swansea.totalpark.uk/en/index.php (dewiswch Maes Parcio Ymwelwyr Campws y Bae neu Stiwdios y Bae). Y costau yw: 

  • hyd at 4 awr – £2.00
  • hyd at 24 awr – £3.50

Maes Parcio SoDdGA – Ffordd Crymlyn (oddi ar Ffordd Fabian)

Ceir 35 lle parcio ychwanegol yn y maes parcio ar gyfer y SoDdGA wrth ochr Maes Parcio Ymwelwyr Campws y Bae. Y costau yw: 

  • hyd at 2 awr – £2.50
  • drwy’r dydd – £3.50 

Rhannu eich Adborth