Cadét y Maer
Defnyddir y term cadét yn aml i gyfeirio at y rhai sy'n hyfforddi yn y fyddin neu'r gwasanaethau brys. Yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot, dewisir Cadét y Maer o glybiau/grwpiau lifrai eraill.
Rydym yn gwahodd sefydliadau i enwebu person ifanc i wasanaethu fel Cadet y Maer. Bydd y rôl yn para am y 18 mis nesaf - gweddill y flwyddyn ddinesig hon tan fis Mai 2026 a'r flwyddyn ddinesig ganlynol tan fis Mai 2027.
Dyletswyddau ffurfiol Cadét y Maer yw cefnogi'r Maer yn ôl yr angen yn ei ddyletswyddau dinesig.
Mae Cadét y Maer yn dod â:
- cysylltiad gweladwy â phobl ifanc lleol sy'n cymryd rhan yng ngweithgareddau clybiau / grwpiau lleol mewn lifrai
- canfyddiad cyhoeddus cadarnhaol
- rôl sy'n anrhydedd i'r rhai a ddewisir
Lawrlwythiadau
Gwnewch gais i fod yn Gadét y Maer
Cyn i chi ddechrau
Bydd angen:
- enw a dyddiad geni'r Cadét
- cyfeiriad rhiant neu warchodwr y Cadét
- cyfeiriad e-bost a rhif ffôn y rhiant neu'r gwarchodwr
- datganiad gan yr ymgeisydd ynglŷn â pham eu bod am ddod yn Gadét y Maer (dim mwy na 300 gair)
- cymeradwyaeth wedi'i llofnodi gan arweinydd (sy'n oedolyn) y sefydliad mewn lifrai (dim mwy na 300 o eiriau)
Cyflwynwch eich cais erbyn 12 canol dydd ar 3 Hydref 2025