Cyngerdd Cofio'r Maer 2025 - Parcio ar gyfer y Digwyddiad
Lleolir 3 maes parcio gerllaw’r Neuadd Fawr.
Gweithredir y meysydd parcio gan drydydd parti, felly cofiwch dalu sylw i’r telerau ac amodau sydd ar waith ynddyn nhw, ac y gallai peidio â chydymffurfio â’r rheolau arwain at Hysbysiad Tâl Parcio.
Maes Parcio Ymwelwyr Campws y Bae a Stiwdios y Bae
Bydd parcio am ddim ym Maes Parcio Ymwelwyr Campws y Bae a Maes Parcio Stiwdios y Bae (gyferbyn).
Bydd bws gwennol rad ac am ddim yn rhedeg rhwng Stiwdios y Bae a'r Brifysgol.
Maes Parcio SoDdGA – Ffordd Crymlyn (oddi ar Ffordd Fabian)
Ceir 35 lle parcio ychwanegol yn y maes parcio ar gyfer y SoDdGA wrth ochr Maes Parcio Ymwelwyr Campws y Bae. Y costau yw:
- hyd at 2 awr – £2.50
- drwy’r dydd – £3.50