Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Gŵyl y Lluoedd Arfog Castell-nedd Port Talbot 2026

 


Mae Gŵyl Lluoedd Arfog Castell-nedd Port Talbot yn cydnabod ac yn anrhydeddu aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog a’u teuluoedd. Mae’n cofio cyn-filwyr a’r rhai a gollodd eu bywydau yn y Rhyfeloedd Byd ac mewn gwrthdaro eraill, gan gydnabod hefyd gyfraniad personél sy’n gwasanaethu heddiw a theuluoedd milwrol.

Ymunwch â ni i goffáu gwasanaeth y gorffennol ac i ddathlu’r cyfraniad parhaus y mae’r Lluoedd Arfog yn ei wneud i gymunedau yma gartref ac ar draws y byd.

*

Cyngerdd Coffa Maer Castell-nedd Port Talbot 2026

Dydd Gwener 23 Hydref 2026 am 7pm

Eglwys Dewi Sant, Castell-nedd, SA11 3AA

Mae tocynnau ar werth nawr

Ymunwch â ni am noson arbennig iawn i anrhydeddu aelodau o Gymuned y Lluoedd Arfog.

Dan arweiniad Mal Pope, bydd y noson yn cynnwys perfformiadau gan:

  • Penelope George
  • Band Pres Ieuenctid Cerdd NPT
  • Band Pibau Dinas Abertawe
  • Band Sgwadron 334 (Castell-nedd) Cadetiaid Awyr yr Awyrlu Brenhinol
  • Josh and Makalya Lodwick

Bydd y noson yn dod i ben gyda gwasanaeth coffa, munud o dawelwch a miloedd o babïau'n disgyn.

Tocynnau

£10 Safonol (yn cynnwys ffi archebu)

£8 Consesiwn (yn cynnwys ffi archebu)

Mae consesiynau ar gael i:

  • Bobl o dan 16 oed
  • Bobl 60 oed a throsodd
  • Cyn-filwyr y Lluoedd Arfog
  • Aelodau wrth gefn y Lluoedd Arfog
  • Cadetiaid y Lluoedd Arfog
  • Personél y Lluoedd Arfog sy'n gwasanaethu
  • Grwpiau o 8 neu fwy

Mae seddi ar gyfer y cyngerdd hwn heb gadw.

Mae tocynnau hefyd ar gael o:

Neuadd Gwyn
Stryd yr Berllan
Castell-nedd

Ffôn: 0300 365 6677

 

Diwrnod Gŵyl y Lluoedd Arfog Castell-nedd Port Talbot

Dydd Sadwrn 24 Hydref 2026

10am i 3.30pm

Canolfan Siopa Aberafan, Port Talbot

Mynediad am ddim

Mae Diwrnod yr Ŵyl yn nodi lansiad Apêl Pabi'r Lleng Brydeinig Frenhinol ym Mhort Talbot ac yn rhoi cyfle i drigolion ac ymwelwyr ddysgu mwy am gymuned y Lluoedd Arfog a'r sefydliadau sy'n ei chefnogi.

Gall ymwelwyr fwynhau:

  • seremoni codi'r faner
  • arddangosfeydd
  • stondinau gwybodaeth
  • adloniant byw

Mae'r sefydliadau sy'n cymryd rhan yn cynnwys:

  • Band Sgwadron 334 (Castell-nedd) Cadetiaid
  • Awyr yr Awyrlu Brenhinol
    Clwb Iwcalili Abertawe

Cystadlaethau Celf

Rydym yn gwahodd pobl ifanc i gymryd rhan mewn dwy gystadleuaeth greadigol gyffrous fel rhan o Ŵyl y Lluoedd Arfog Castell-nedd Port Talbot 2026.

Bydd y ceisiadau'n cael eu harddangos yng Nghanolfan Siopa Aberafan yn ystod yr ŵyl.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Iau 8 Hydref 2026 am 3pm

Mae'r gystadleuaeth yn agored i blant a phobl ifanc 17 oed ac iau sy'n byw yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Categorïau oedran

Bydd ceisiadau'n cael eu beirniadu yn y grwpiau oedran canlynol:

  • 0 i 7 oed
  • 8 i 12 oed
  • 13 i 17 oed

Gall ceisiadau ym mhob categori fod ar ffurf:

  • cerdd
  • stori fer
  • llun

Themâu'r gystadleuaeth

Celfyddyd y Lluoedd Arfog

Mae'r gystadleuaeth hon yn gwahodd plant a phobl ifanc ledled Castell-nedd Port Talbot i archwilio beth mae'r Lluoedd Arfog yn ei olygu iddynt drwy waith creadigol.

Bod yn Un o Blant y Lluoedd Arfog

Mae'r gystadleuaeth hon yn gwahodd plant a phobl ifanc i rannu eu dehongliad o fywyd fel plentyn milwrol.

Mae'r categori hwn yn agored i blant a phobl ifanc o deuluoedd milwrol lle mae o leiaf un rhiant neu warcheidwad yn gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog ar hyn o bryd.

Gwobrau

Bydd gwobrau'n cael eu dyfarnu ym mhob categori oedran.

  • Gwobr gyntaf: Taleb Amazon gwerth £40
  • Ail wobr: Taleb Amazon gwerth £20
  • Trydydd gwobr: Taleb Amazon gwerth £10

Casglu gwobrau

Rhaid i'r enillwyr gasglu eu gwobrau o Ganolfan Siopa Aberafan yng nghwmni rhiant neu warcheidwad.

Bydd y gwobrau ar gael i'w casglu ar 24 Hydref 2026 neu ar ddyddiad ac amser arall y cytunir arnynt gyda'r enillwyr.

Rhagor o wybodaeth

Am ragor o wybodaeth, siaradwch â'ch athro neu anfonwch e-bost at: lluoeddarfog@npt.gov.uk  

Cysylltwch eich digwyddiad

Mae trefnwyr digwyddiadau yng Nghastell-nedd Port Talbot yn cael eu gwahodd i gysylltu eu digwyddiadau eu hunain â'r ŵyl.

Fel rhan o raglen yr ŵyl, gall digwyddiadau elwa ar hyrwyddiad am ddim, gan gynnwys ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol, gwefan a byrddau hysbysu'r Cyngor.

Gall trefnwyr digwyddiadau sydd â diddordeb mewn cysylltu â Gŵyl Lluoedd Arfog Maer Castell-nedd Port Talbot 2026 lenwi ffurflen ar-lein. I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch: lluoeddarfog@npt.gov.uk   

Bydd y wybodaeth hon yn cael ei diweddaru wrth i ragor o ddigwyddiadau gael eu cadarnhau. Dychwelwch i'r dudalen hon yn rheolaidd i weld y diweddariadau diweddaraf.
Nol i ben y dudalen