Maer Castell-nedd Port Talbot - Gwobrau Dinasyddion 2025
Mae ‘Gwobrau Dinasyddion Maer Castell-nedd Port Talbot’ yn ôl!
Unwaith eto, bydd y gwobrau’n cydnabod arwyr di-glod o bob cwr o Gastell-nedd Port Talbot sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn i’n cymunedau.
Gyda chefnogaeth garedig Tata Steel & Trade Centre Wales, cynhelir y digwyddiad yn Yr Orenfa, Parc Margam ar ddydd Gwener 4 Ebrill, 2025.
Mae enwebiadau ar gyfer y gwobrau hyn bellach wedi cau
Diolch o galon i bawb wnaeth roi o’u hamser i enwebu grwpiau ac unigolion haeddiannol.
Cofiwch gadw llygad am ddiweddariadau!
Categori o wobrwyon
Mae 12 categori o wobrwyon:
- Gwobr Cymydog Da …gyda Associated British Ports
- Gwirfoddolwr y Flwyddyn ... gyda CGG Castell-nedd Port Talbot
- Gwobr yr Amgylchedd a Threftadaeth …gyda Zoar’s Ark, Castell-nedd
- Gwobr Plentyn Dewr …gyda Trade Centre Wales
- Gwobr y Celfyddydau Perfformio …gyda Buffoon Media
- Gwobr Cefnogi Addysg
- Seren Chwaraeon y Flwyddyn …gyda Aberavon RFC
- Pencampwr Cymunedol ... gyda Canolfan Siopa Aberafan
- Gwobr Iechyd a Llesiant …gyda Centregreat
- Gwobr Dewrder Eithriadol …gyda Llanelec Precision Engineering
- Gwobr Cyfraniad i Elusen …gyda Tata Steel
- Gwobr Gofalwr Ifanc
Meini prawf a chanllawiau categorïau
Gwobr Cymydog Da
Ydych chi’n adnabod rhywun sy’n mynd yr ail filltir i helpu pobl sy’n byw o’u cwmpas? Enwebwch a gwobrwywch nhw am y cyfan maen nhw’n ei wneud. Esboniwch sut y byddan nhw’n helpu, a phwy maen nhw’n helpu a dywedwch wrthym pam eich bod chi’n credu ei bod nhw’n haeddu gwobr.
Gwirfoddolwr y Flwyddyn
Agored i unigolyn neu grŵp o wirfoddolwyr o unrhyw oedran sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i’w cymuned leol. Esboniwch pam rydych chi’n meddwl bod eu gwaith mor bwysig, a’r gwahaniaeth maen nhw’n ei wneud.
Gwobr yr Amgylchedd a Threftadaeth
Agored i unigolyn neu grŵp y mae eu gwaith neu weithredoedd yn gwneud gwahaniaeth i'n hamgylchedd neu dreftadaeth leol. O grwpiau neu unigolion sy'n ymwneud â glanhau traethau i'r rhai sydd ag angerdd i hyrwyddo a chadw ein treftadaeth leol werthfawr, dylai enwebiadau esbonio pam rydych chi'n meddwl bod eu gwaith mor bwysig ac o fudd i ni i gyd.
Gwobr Plentyn Dewr
Agored i blant neu bobl ifanc dan 18 oed sydd wedi dangos dewrder neu wroldeb eithriadol. Efallai eu bod wedi brwydro yn erbyn y ffactorau i oresgyn heriau, neu wedi dangos cryfder a phenderfyniad yn ystod cyfnod anodd. Sut gawsoch chi eu hysbrydoli gan eu gwroldeb a’u dewrder?
Gwobr y Celfyddydau Perfformio
Mae Castell-nedd Port Talbot yn falch o’i sin Celfyddydau Perfformio fywiog. Mae’r wobr hon yn agored i dderbyn enwebiadau ar gyfer unigolion, grwpiau neu gymdeithasau. Rhowch wybodaeth gefndirol am y person neu grŵp rydych chi’n eu henwebu a nodwch lwyddiannau a chynnydd allweddol.
Gwobr Cefnogi Addysg
Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn rhai anodd i bobl ifanc mewn ysgolion a cholegau. Mae athrawon a staff wedi dangos gofal, ymrwymiad a phenderfyniad anhygoel i gefnogi pobl ifanc trwy gyfnod heriol. Dyma eich cyfle i gydnabod a diolch i athro neu aelod o staff sydd wedi eich helpu chi neu rywun yn eich teulu i lwyddo.
Seren Chwaraeon y Flwyddyn
Enwebwch seren chwaraeon leol, neu glwb neu dîm sydd wedi cyflawni rhywbeth arwyddocaol ym myd chwaraeon, boed ar lefel leol neu genedlaethol neu hyd yn oed yn rhyngwladol. Dywedwch wrthym am eu llwyddiannau a pham rydych chi’n meddwl eu bod nhw’n arbennig.
Pencampwr Cymunedol
Agored i unigolion neu grwpiau o bobl sydd wedi gweithio i wella bywyd cymunedol. Waeth beth maen nhw’n cymryd rhan ynddo, dewch i ni gydnabod eu hymdrechion a’u hymrwymiad gyda’r wobr hon. Dywedwch wrthym am eu gweithredoedd, eu hymrwymiad a’r gwahaniaeth maen nhw’n ei wneud.
Gwobr Iechyd a Llesiant
Agored i grwpiau, sefydliadau neu unigolion lleol y mae’u gwaith, eu gweithredoedd neu’u hymgysylltiad yn helpu i hybu iechyd a llesiant. Dywedwch wrthym am yr hy maen nhw’n ei wneud a phwy maen nhw’n ei helpu.
Gwobr Dewrder Eithriadol
Gellir dangos dewrder mewn sawl ffordd. O weithredoedd achub bywyd i oresgyn cyni a heriau personol. Pwy yw’r person dewraf rydych chi’n ei adnabod? Enwebwch nhw a gallwn gydnabod eu llwyddiant.
Gwobr Cyfraniad i Elusen
Bydd y wobr hon yn talu teyrnged i berson neu grŵp arbennig y mae’u gwaith dros elusen neu achos da wir yn gwneud gwahaniaeth. O godi arian i wneud gwaith gwirfoddol penodol, dywedwch wrthym beth sy’n gwneud i’r un rydych chi’n ei enwebu fod mor arbennig.
Gwobr Gofalwr Ifanc
Mae llawer o bobl ifanc yn ein hardal sy’n chwarae rhan hollbwysig ym mywydau bob dydd eu teuluoedd drwy gyflawni dyletswyddau gofalu. Iddyn nhw fe allai ymddangos yn normal gofalu am riant neu frawd neu chwaer bob bore cyn mynd i'r ysgol neu'r coleg. Iddynt hwy mae'r pryder cyson a'r ymdeimlad o ddyletswydd bob amser yno. Bydd y wobr hon yn amlygu gwaith gofalwyr ifanc sy’n aml yn ymddangos yn anweledig yn ein cymunedau.