Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Dweud eich dweud am wasanaethau dydd

Rydyn ni'n gwahodd pobl sy'n defnyddio gwasanaethau dydd, ynghyd â gofalwyr, rhieni ac aelodau o'r teulu, i rannu'u profiadau a'u barn. Mae gwasanaethau dydd yn cefnogi oedolion i barhau i fod yn heini, annibynnol a chysylltiedig, gan gynnwys pobl ag anableddau dysgu, pobl hŷn a phobl sy'n byw gyda chyflyrau fel dementia.

Hoffem glywed beth sy'n gweithio'n dda, beth sy'n bwysig i ni ei gadw, a ble gallem weld cyfleoedd i wella. Bydd eich adborth chi'n ein helpu i adeiladu darlun cliriach o'r hyn sy'n cyfri i'r rhan fwyaf o bobl sy'n defnyddio gwasanaethau dydd a'r bobl sy'n eu cefnogi. Mae'r gweithgaredd ymgysylltu hwn yn ymwneud â gwrando ar brofiadau a deall anghenion heddiw ac i'r dyfodol, er mwyn i wasanaethau allu parhau i adlewyrchu anghenion pobl leol.

Nid ymgynghoriad ffurfiol mo hwn.

Rhannu eich Adborth