Ymgynghoriad Cyllideb 2024/25
Ymgynghoriad Cyllideb CnPT 2024-25 – Beth ddywedoch chi wrthym…
Gwnaed y penderfyniadau terfynol am gyllideb 2024-25 ar gyfer Castell-nedd Port Talbot gan y Cabinet ddydd Mercher 6 Mawrth, ac mewn cyfarfod o’r Cyngor llawn ddydd Iau 7 Mawrth 2024. Gallwch ddarllen mwy am y gyllideb www.npt.gov.uk/budgetandspending, a gallwch ddarllen adroddiad y gyllideb lawn.
Oll yn oll, ystyriwyd barn dros 2,500 o bobl o ran y broses o osod cyllideb, o siarad â phobl am y pethau sy’n cyfri iddyn nhw drwy ein hymgyrch ymgysylltu “Parhewch i Sgwrsio”, ac eto gan bobl a ymatebodd i’r ymgynghoriad cyhoeddus yn y cyfnod yn arwain at osod y gyllideb derfynol.
Diolch i bawb ohonoch am eich adborth. Dyma rai o’r pethau ddywedoch chi wrthym……
Ymatebion i Holiadur Ymgynghoriad y Gyllideb
O 20 Rhagfyr 2023 tan 10 Ionawr 2024, fe gynhalion ni ymgynghoriad cyhoeddus ar ein cynigion drafft am gyllideb 2024-25. Fe dderbynion ni 556 o holiaduron llawn.
Beth glywsom ni
Arian Wrth Gefn Penodol Gwasanaethau Cymdeithasol
Fe ofynnon ni sut mae pobl yn teimlo am y cynnig i ddefnyddio £6.8miliwn o arian wrth gefn penodol i fynd i’r afael â gwasgfeydd ariannu ym maes Gwasanaethau Cymdeithasol ac i helpu i gydbwyso’r gyllideb yn 2024-25. Atebodd 514 o bobl y cwestiwn hwn:
- o blith y 350 o ymatebwyr sy’n cytuno neu’n cytuno’n gryf â’r cynnig, ymysg rhai o’r prif themâu pam maen nhw’n cytuno roedd:
- Sylwadau am bwysigrwydd Gwasanaethau Cymdeithasol a darparu cefnogaeth i’r rhai mewn angen
- Barn y dylid defnyddio arian wrth gefn pan fo pethau’n fain.
- Barn fod Gwasanaethau Cymdeithasol dan bwysau, angen mwy o adnoddau, neu y dylent fod yn flaenoriaeth.
- Sylwadau fod angen / galw yn tyfu (rhai’n cysylltu hyn â’r boblogaeth sy’n heneiddio).
- o blith y 96 o ymatebwyr sy’n anghytuno neu’n anghytuno’n gryf â’r cynnig, ymysg rhai o’r prif themâu pam maen nhw’n anghytuno roedd:
- angen mwy o wybodaeth neu fwy o gwestiynau am y cynnig
- barn y dylid rheoli gwariant / adnoddau Gwasanaethau Cymdeithasol o fewn y gyllideb sydd ar gael
- sylwadau negyddol am lefel / argaeledd presennol y gwasanaeth
- barn y dylai gwasgfeydd Gwasanaethau Cymdeithasol gael eu hariannu gan lywodraethau Cymru neu’r DU.
Treth y Cyngor
Fe ofynnon ni pa mor gefnogol fyddai pobl i gynnydd yn Nhreth y Cyngor i helpu i warchod / osgoi toriadau i wasanaethau a ddarperir gan y cyngor. Atebodd 540 o bobl y cwestiwn hwn:
- o blith y 130 o ymatebwyr a ddangosodd y bydden nhw’n gefnogol neu’n gefnogol iawn, rhoddodd 90 (69%) eu rheswm am ymateb fel y gwnaethant. Ymysg rhai o’r prif themâu pam y bydden nhw’n gefnogol roedd:
- gwarchod gwasanaethau
- y byddai cynnydd i’w ddisgwyl am fod costau popeth wedi cynyddu
- bydden nhw’n cefnogi cynnydd bychan neu fforddiadwy
- lleisiwyd gofidiau am y cynnydd mewn gwasgfeydd costau byw
- barn y dylai’r cynnydd ddod o hyd i ddulliau mwy effeithlon / arbedion / incwm i gadw’r cynnydd mor isel â phosib.
- o blith y 391 o ymatebwyr a ddangosodd y bydden nhw’n anghefnogol neu’n anghefnogol iawn, rhoddodd 289 (74%) eu rheswm am ymateb fel y gwnaethant. Ymysg rhai o’r prif themâu pam y bydden nhw’n gefnogol roedd:
- barn fod pobl eisoes yn talu digon / gormod
- gofid y byddai cynnydd yn ychwanegu at wasgfeydd costau byw presennol
- barn nad yw pobl yn cael gwerth am arian / yn cael cais i dalu mwy am lai.
- barn y dylai’r cyngor arbed arian mewn mannau eraill neu gynhyrchu incwm.
Strategaeth y Gyllideb
Fe amlinellon ni 4 nod allweddol y seilir strategaeth y gyllideb ddrafft arni, a gofynnwyd i ymatebwr ddangos i ba raddau maen nhw’n cytuno â nhw. Dyma’r ymatebion:
- Gwahoddwyd pobl i ymhelaethu ar eu hymatebion i’r cwestiwn ar y nodau allweddol, a daeth y themâu isod i’r amlwg:
- roedd lefel cyffredinol uchel o gefnogaeth i’r pedwar maes ffocws a gynigiwyd
- cwestiynodd nifer o ymatebwyr a oedd, neu ba mor agos roedd blaenoriaethau polisi Llywodraeth Cymru’n unioni â blaenoriaethau ac anghenion lleol.
- roedd sawl sylw’n awgrymu y dylai COVID-19 fod y tu cefn i ni nawr, gan awgrymu diffyg ymwybyddiaeth o’r effaith barhaol.
Awgrymiadau eraill
Fe ofynnon ni am unrhyw awgrymiadau eraill o ran sut y gallai’r cyngor leihau’r bwlch yn y gyllideb. Y prif themâu oedd:
- Awgrymiadau ynghylch lleihau’r costau sy’n gysylltiedig â / niferoedd o staff cyngor ar gyflogau uwch
- Gwerthu / rhentu / lleihau adeiladau, tir ac asedau eraill y cyngor.
- Arbedion effeithlonrwydd / atal gwastraff.
- Cynhyrchu incwm
Gan bwy glywsom ni
- Dywedodd 96% (523) o ymatebwyr eu bod nhw’n byw yng Nghastell-nedd Port Talbot
- Roedd 1% (6) dan 25 oed; ychydig dros chwarter 29% (129) yn 60 oed neu hŷn, a 64% (284) rhwng 25-59 oed.
- Dywedodd 50% (217) eu bod nhw’n fenywaidd; 42% (182) yn wrywaidd; ac 1% (2) yn anneuaidd.