Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Gwasanaeth argyfwng y tu allan i oriau gwaith

Ein horiau agor yn ystod y dydd yw 8:30am tan 5pm o ddydd Llun i ddydd Iau, ac 8:30am tan 4:30pm ar ddydd Gwener.

Os bydd argyfwng y tu allan i'r oriau hyn ac nad yw'n fater i'r gwasanaethau brys (999), yna gallwch ein ffonio ni ar y rhifau isod.

Manylion cyswllt y tu allan i oriau gwaith ar gyfer gwasanaethau'r Cyngor

Os bydd gennych ymholiad brys y bydd angen i chi ei drafod â'n tîm y tu allan i oriau gwaith, ffoniwch 01639 686868.

Argyfyngau y byddwn yn delio â nhw

Ymhlith yr argyfyngau y byddwn yn delio â nhw mae:

  • llifogydd
  • problemau sy'n ymwneud â phriffyrdd, fel damweiniau traffig ffyrdd
  • methiannau goleuadau traffig a phroblemau difrifol sy'n ymwneud â goleuadau stryd
  • adeiladau, coed a strwythurau peryglus
  • cŵn coll neu gŵn wedi'u darganfod

Beth fydd yn digwydd pan fyddwch yn ein ffonio ni y tu allan i oriau gwaith

Bydd swyddog argyfwng y tu allan i oriau gwaith yn ateb eich galwad. Bydd yn eich cynghori chi ar yr hyn y gallwn ei wneud a'r hyn na allwn ei wneud.

Mae'n bosibl y byddwn yn:

  • gwneud trefniadau ar gyfer delio â'r ymholiad os bydd risg uniongyrchol a sylweddol
  • rhoi cyngor i chi, ynghyd â manylion cyswllt y sefydliad a all ddelio a'ch galwad, os yw'n fater na allwn ddelio ag ef
  • eich cynghori chi nad yw'r digwyddiad yn argyfwng ac argymell y dylech chi ffonio'n ôl yn ystod oriau swyddfa arferol

Digartrefedd (argyfyngau y tu allan i oriau swyddfa yn unig)

  • Ffôn: 01639 685219

Gwasanaeth Dyletswydd Argyfwng y Gwasanaethau Cymdeithasol

  • Ffôn: 01639 895455
    • 5:30pm - 1:30am (yn ystod yr wythnos)
    • 9:00am - 1:30am (dydd Sadwrn/dydd Sul /Gwyliau Banc)
Yn yr argyfyngau mwyaf difrifol yn unig, bydd gweithiwr cymdeithasol ‘ar alwad’ bob diwrnod o'r flwyddyn rhwng 1:30am ac 8:30am. Gellir cysylltu â'r gweithiwr cymdeithasol drwy gysylltu â'r heddlu yn gyntaf.

Manylion cyswllt ar gyfer gwasanaethau a sefydliadau eraill

Atgyweiriadau brys Tai Tarian

  • Ffôn: 0300 777 3000

Yr Heddlu, y Gwasanaeth Tân, Ambiwlans, Gwylwyr y Glannau

  • Ffôn: 999

Asiant Cefnffyrdd De Cymru

  • Ffôn: 03001231213

Gwasanaeth rhoi gwybod am argyfyngau nwy

  • Ffôn: 0800 111999

Gwasanaeth rhoi gwybod am argyfyngau trydan

  • Ffôn: 0800 0520400

Dŵr Cymru

  • Ffôn: 0800 0520400

Llinell llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru

  • Ffôn: 0345 988 1188

Llinell gymorth digwyddiadau Cyfoeth Naturiol Cymru

  • Ffôn: 0800807060