Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Ymgynghoriadau

Darllenwch ein datganiad preifatrwydd

Diolch am ymweld â thudalen ymgynghori Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, lle gallwch roi sylwadau ac adborth ar bynciau sy'n berthnasol i Gastell-nedd Port Talbot.

Edrychwn ymlaen at ddarllen eich ymatebion ar ein ymgynghoriadau.

Gwella Teithio Llesol a mannau cyhoeddus Sandfields

Yn dilyn ymgysylltiad â'r cyhoedd a gynhaliwyd ym mis Ionawr 2024 ar gynigion dylunio cychwynnol y llwybr ar gyfer ardal Uwchgynllun Teithio Llesol Sandfields, rydym wedi bod yn datblygu dyluniadau manylach ar gyfer y prif lwybrau â blaenoriaeth.

Mae'r prosiect hwn yn bwriadu ei wneud yn haws, yn fwy diogel ac yn fwy pleserus i bobl gerdded, olwyno a beicio o gwmpas ardal Sandfields a glan môr Aberafan. Hyd y llwybr hwn yw oddeutu 4.7km ac mae'n canolbwyntio ar sawl stryd leol bwysig, gan gynnwys:

  • Ffordd Solar
  • Rhodfa Handel
  • Rhodfa Purcell
  • Rhodfa Scarlet
  • Ffordd y Dywysoges Margaret
  • Heol Victoria
  • Heol Saint Paul

Gyda'i gilydd, bydd y gwelliannau hyn yn creu llwybr cylchredol mwy hygyrch a deniadol sy'n cysylltu Llwybr 4 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol ar Ffordd Afan â chyrchfannau allweddol ar hyd glan y môr.

Mae'r prosiect teithio llesol hwn yn cyd-fynd ag ymdrechion adfywio ehangach gyda'r nod o adfywio tri man cyhoeddus allweddol. Bydd y gwelliannau hyn yn gwneud yr ardaloedd yn fwy deniadol, yn cryfhau cysylltiadau yn y gymdogaeth ac yn helpu i greu lle glanach, gwyrddach a mwy bywiog i breswylwyr ac ymwelwyr. Mae'r mannau'n cynnwys yr ardaloedd canlynol:

  • o gwmpas caffi Memo Beach
  • ger y parc sglefrio
  • y ddyfodfa at Ysgol Gynradd Tywyn

Mae'r prosiect hwn yn cyd-fynd ag uwchgynllun parhaus Glan Môr Aberafan, sydd wedi'i ddylunio i wella'r ardal er budd y gymuned gyfan yn ogystal ag ymwelwyr. 

Map o faint y cynllun

Cyllid

Mae'n bwysig nodi bod y prosiect hwn wedi'i ariannu'n llawn drwy grant gan Lywodraeth Cymru. O ganlyniad, gall y cyngor ond defnyddio cyllid Teithio Llesol ar gyfer gwelliannau i isadeiledd cerdded, beicio ac olwyno. Ni ellir ei ddefnyddio'n gyfreithlon at unrhyw bwrpas arall. 

Lawrlwythiadau

Mae'r atodiadau isod yn darparu mwy o fanylion. 

  • Y Prosiect (PDF 385 KB)
  • Mwy am y Prosiect (PDF 358 KB)
  • Ffordd Solar, Rhodfa Handel, Rhodfa Purcell, Rhodfa Scarlet (PDF 2.81 MB)
  • Ffordd y Dywysoges Margaret (Gorllewin) (PDF 3.15 MB)
  • Ffordd y Dywysoges Margaret (Canolog) (PDF 3.80 MB)
  • Ffordd y Dywysoges Margaret (Dwyrain) (PDF 3.44 MB)
  • Heol Victoria, Heol Saint Paul (PDF 3.13 MB)
  • O gwmpas caffi Memo Beach (PDF 5.97 MB)
  • Ger y parc sglefrio (PDF 4.10 MB)
  • Y ddyfodfa at Ysgol Gynradd Tywyn (PDF 6.20 MB)
  • Rhestr o dermau elfennau dylunio (PDF 1.06 MB)
  • Pecyn lluniadu peirianneg (PDF 9.74 MB)
Lawrlwythwch...
Pecynnu:  
Cwblhau

Arolwg

Byddwn yn defnyddio'ch adborth i fireinio a chwblhau'r cynigion dylunio manwl. 

Rydym yn awyddus i glywed eich barn rhwng 11 Chwefror ac 11 Mawrth 2026. 

Mwy o wybodaeth

Oes gennych fwy o gwestiynau? Gallwch ddod i ddigwyddiadau ymgysylltu wyneb yn wyneb yng Nghanolfan Hamdden Aberafan:

  • Dydd Llun 2 Mawrth – 3.00 pm i 7.00 pm
  • Dydd Sadwrn 7 Mawrth – 10.00 am i 1.00 pm

Bydd aelodau o'r tîm ar gael i siarad â chi am y cynigion.

Mae copïau papur o'r ffeiliau uchod y gellir eu lawrlwytho a'r arolwg hefyd ar gael o Lyfrgelloedd Sandfields, Port Talbot a Chastell-nedd.

Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch, cysylltwch â ni drwy e-bost: activetravel@npt.gov.uk

Prosiect Teithio Llesol Cyswllt Pont Newbridge Road

Rydyn ni eisiau eich help i sicrhau bod prosiect Pont Newbridge Road yn cwrdd gydag anghenion cymuned chi. Rhannwch eich meddyliau trwy gwblhau ein holiadur adborth ni.

Bydd y prosiect Teithio Llesol Cyswllt Pont Newbridge Road yn adfer yr adeiladwaith hanesyddol Gradd II ac yn ail agor fel llwybr hygyrch diogel i gerddwyr a beicwyr, sy’n creu cysylltiad hanfodol rhwng ardaloedd allweddol Port Talbot.

Bydd y cynllun yn trawsnewid y bont mewn i lwybr a rennir rhwng Ffordd Riverside a Ffordd Newbridge, wedi’i ategu gan droedffordd newydd ar hyd Ffordd Riverside a mesurau gosteg traffig ar Ffordd Newbridge i wella diogelwch ac annog teithio llesol.

Mae ail agoriad Pont Newbridge Road yn cael ei ystyried gyda’r Uwchgynllun Teithio Llesol Sandfields ehangach, sy’n nodi ei gwneud yn haws i bawb i gerdded, beicio neu olwyn ar deithiau pob dydd.

Bydd ymgynghoriad cyhoeddus am y prosiect Pont Newbridge Road yn digwydd rhwng dydd Llun yr 2il o Chwefror I ddydd Sul yr 15ed o Fawrth 2026. Rydyn ni yn awyddus i ddeall eich barn chi i sicrhau bod y cynllun yn gwasanaethu anghenion chi a’r gymuned.

Digwyddiad galw heibio

Bydd tri digwyddiad galw heibio yn cael ei chynnal mewn dau leoliad ble gallwch chi drafod y cynigion gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot a'u hymgynghorwyr, Amey. Bydd y rhain yn cael ei chynnal ar y dyddiadau a lleoliadau dilynol - 

Canolfan Hamdden Aberavon, The Princess Margaret Way ar:

  • Dydd Iau 12 Chwefror 2026, 9yb-5yp
  • Dydd Gwener 13 Chwefror 2026, 1yp-7:30yp

Canolfan Siopa Aberafan, Port Talbot, SA13 1PB ar:

  • Dydd Sadwrn 14 Chwefror 2026, 9yb-12yp

Llawrlwythiadau

  • Location plan (PDF 1.33 MB)
  • Highways consultation drawing (PDF 1.88 MB)
  • Proposed general arrangement (PDF 435 KB)
  • Byrddau arddangos (PPTX 6.28 MB)
Lawrlwythwch...
Pecynnu:  
Cwblhau

Ymgynghoriadau’r Amgylchedd

Ymgynghoriadau sy’n ymwneud â’r amgylchedd, gan gynnwys Cynllunio, Trafnidiaeth, Bioamrywiaeth a

Rhannu eich Adborth