Ymgynghoriadau
Darllenwch ein datganiad preifatrwydd
Diolch am ymweld â thudalen ymgynghori Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, lle gallwch roi sylwadau ac adborth ar bynciau sy'n berthnasol i Gastell-nedd Port Talbot.
Edrychwn ymlaen at ddarllen eich ymatebion ar ein ymgynghoriadau.
Chynllun Lliniaru Llifogydd Arfaethedig Sgiwen
Hoffai Gwasanaeth Gwaith Draenio CnPT gael eich adborth mewn perthynas â'r cynllun lliniaru llifogydd arfaethedig ar gyfer Sgiwen.
Rydym yn gwerthfawrogi barn pobl yn y fwrdeistref sirol ac rydym am glywed eich barn.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Gynllun Lliniaru Llifogydd Arfaethedig y Sgiwen yn www.npt.gov.uk/cy/skewen-flood-alleviation-scheme/
Ymgynghoriad ar Bolisi Deddf Trwyddedu Drafft 2026–2031
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gyfrifol am ganiatau trwyddedu safle, tystysgrifau safle clwb, a thrwyddedu personol o ran gwerthu a/neu gyflenwi alcohol a darparu adloniant rheoledig a lluniaeth hwyrnos.
Mae'r Ddeddf Trwyddedu 2003 yn ei gwneud yn ofynnol bod y Cyngor yn cyhoeddi "Polisi Trwyddedu" sy'n gosod y polisiau y bydd y cyngor yn gweithredu'n gyffredinol er mwyn hyrwyddo'r amcanion trwyddedu wrth wneud penderfyniadau ynglyn a cheisiadau a wneir dan y Ddeddf 2003.
Rydym yn gwerthfawrogi barn pobl yn y fwrdeistref sirol ac rydym am glywed eich barn ein Polisi Deddf Trwyddedu Drafft 2026-2031.
Llawrlwythiadau
Bydd yr ymgynghoriad yn cau am hanner nos ddydd Mercher 26 Tachwedd 2025.
Ymgynghoriadau’r Amgylchedd
Ymgynghoriadau sy’n ymwneud â’r amgylchedd, gan gynnwys Cynllunio, Trafnidiaeth, Bioamrywiaeth a