Strategaeth Gorfforaethol 2025-2028
Mabwysiadwyd y Strategaeth Gorfforaethol 2025/2028: ‘Gweithio tuag at CNPT mwy ffyniannus, tecach a gwyrddach’, gan y Cyngor ar 9 Gorffennaf 2025, ac mae’n darparu cyfeiriad strategol ar gyfer teithio ar draws y pedwar amcan llesiant i’w cyflawni erbyn 2028 ac yn ystyried barn pobl sy’n byw ac yn gweithio yn y sir.
Ein pedwar amcan llesiant:
- bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau mewn bywyd
- bod pob cymuned yn llewyrchus ac yn gynaliadwy
- bod modd i genedlaethau’r dyfodol fwynhau ein hamgylchedd lleol, ein diwylliant a’n treftadaeth
- rhaglen alluogi ar gyfer swyddi a sgiliau
Yn sail i'r Strategaeth Gorfforaethol mae Cynlluniau Busnes Penaethiaid Gwasanaeth. Mae'r Cynlluniau Busnes hyn yn cynnwys camau gweithredu a mesurau perfformiad manwl, gan gynnwys mesurau defnyddwyr gwasanaeth, ar gyfer cyflawni amcanion tymor canolig y cyngor a byddant yn cael eu monitro yn ystod y flwyddyn i ddangos cynnydd wrth gyflawni ein hamcanion lles.
Llawrlwythiadau