Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Deddfwriaeth

Ein nod yw gweithio tuag at greu cymdeithas decach, gwella gwasanaethau cyhoeddus, mynd i'r afael ag anghydraddoldebau â gwreiddiau dwfn er mwyn gwella bywydau pobl.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn darparu amddiffyniad cyfreithiol mewn cymdeithas a'r gweithle os ydych chi'n profi gwahaniaethu oherwydd unrhyw un o'r nodweddion gwarchodedig canlynol:

  • oedran
  • ailbennu rhywedd
  • rhyw
  • hil
  • anabledd
  • beichiogrwydd a mamolaeth
  • tueddfryd rhywiol
  • crefydd a chred
  • priodas a phartneriaeth sifil (o ran yr angen i ddileu gwahaniaethu'n unig)

Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus

Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (DCSC), sydd wedi'i chynnwys yn Neddf Cydraddoldeb 2010, yn dweud bod yn rhaid i gyrff cyhoeddus anelu at:

  • gael gwared ar wahaniaethu, aflonyddu ac erlid anghyfreithlon
  • hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng y rheini a chanddynt nodwedd warchodedig a'r rheini hebddynt.
  • meithrin perthnasoedd da rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a'r bobl nad ydynt yn ei rhannu

Penderfyniad y Goruchaf Lys am ystyr rhyw yn y Ddeddf Cydraddoldeb

Yn dilyn penderfyniad Goruchaf Lys y DU ym mis Ebrill 2025 ynghylch ystyr rhyw yn y Ddeddf Cydraddoldeb, ymgynghorodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar newidiadau arfaethedig i rannau perthnasol o'i Gôd Ymarfer ar gyfer gwasanaethau, swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau (gan gynnwys cynghorau).

Mae'r Côd yn darparu canllawiau ffurfiol i sefydliadau mewn perthynas â'u dyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a sut i'w rhoi ar waith. Mae ganddo statws cyfreithiol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2006.

Yn dilyn cyhoeddi'r Côd Ymarfer diwygiedig, bydd y Gymdeithas Llywodraeth Leol yn darparu unrhyw eglurder ac arweiniad ychwanegol y mae ei angen ar gynghorau.

Byddwn yn adolygu ein polisïau perthnasol yn unol â'r Cod Ymarfer diwygiedig ac arweiniad y Gymdeithas Llywodraeth Leol pan fydd y rhain ar gael. 

Rhannu eich Adborth