Oriel Arwyr Teimladwy
Mae'r oriel hon wedi'i chreu gan Wasanaeth Llyfrgell ac Amgueddfeydd Castell-nedd Port Talbot, ond ni fyddai wedi bod yn bosib creu’r oriel hon heb gyfraniadau gan bobl Castell-nedd, Port Talbot a’r cyffiniau.
Rhaid diolch yn arbennig i Jonathan Skidmore, Cymdeithas Hanesyddol Port Talbot a Chyfeillion Parc Margam am eu cyfraniadau at yr arddangosfa.
Y Trydydd Ysbyty Milwrol Gorllewinol, Penrhiwtyn, Castell-nedd
Addaswyd yr Ysbyty a adeiladwyd ym 1912 yn Ysbyty milwrol i dderbyn anafusion o’r ffrynt ym 1916. Wedi iddynt ddychwelyd i Brydain, cludwyd milwyr anafedig ar drên i'r platform yng Nghwrt Sart ac yn syth ar draws y ffordd i'r Ysbyty. Gwirfoddolodd llawer o bobl leol fel ysbytywÿr a chludwyr elorwelynau nes iddynt gael eu galw i ymuno â’r fyddin eu hunain.
Sefydlwyd nifer o ysbytai cynorthwyol ledled y fwrdeistref gan gynnwys:
- Neuadd Baglan
- Aberpergwn
- Ysbyty Sant Ioan, Pontardawe
- Glahrhyd, Pontardawe
- Oarc y Gnoll, Castell-nedd
- Cwrt Sart, Llansawel
- The Laurels yng Nghastell-nedd
Tom Dennis & Ivor George Hopkins
Gweithiodd Thomas Dennis o 3 Heol Marshfield, Melyncryddan yng Nghwmni Galfaneiddio Dalennau Dur Castell-nedd. Bu’n gwasanaethu gyda'r Magnelwyr Brenhinol ar Ffrynt y Gorllewin am 3 blynedd. Ni phriododd Tom erioed a bu farw yn y 1980au.
Gweithiau ffrind Tom, George Hopkins, o 42 Stryd Alfred, Castell-nedd mewn siop dillad dynion. Ymunodd â Gwarchodlu’r Grenadwyr cyn gynted ag y dechreuodd y rhyfel a bu’n gwasanaethau gyda'r 2il Fataliwn ar Ffrynt y Gorllewin am 3 blynedd. Fe’i hanafwyd ar bedwar achlysur gwahanol, yn y wddf, ei fraich, ei ben-glin de a’i forddwyd dde.
Ym 1918, trosglwyddodd i Gorfflu Gwasanaeth Brenhinol y Fyddin. Ar ôl y rhyfel, daeth yn bostmon a symudodd i Gaint.
Bu’n gwasanaethu yn y Gwarchodlu Cartref yn ystod yr Ail Ryfel Byd a bu farw yn Chatham ym 1970.
Preifat William Richard Hughes
Roedd William a aned ym 1875 yn Nhai-bach, yn un o'r gwirfoddolwyr cyntaf i listio wedi i Emily Charlotte Talbot alw cyfarfod o weithwyr yr ystad ym Mharc Margam ar ôl i'r rhyfel ddechrau ym 1914.
Ymunodd â'r Peirianwyr Brenhinol fel cloddiwr (milwr a oedd yn gyfrifol am dasgau megis adeiladu ac atgyweirio ffyrdd a phontydd, gosod a chlirio ffrwydrynnau), ac ymladdodd ar y ffrynt yng Ngwlad Belg a Ffrainc gan gynnwys Ypres. Fe’i gwenwynwyd a nwy ddwywaith.
Dychwelodd i'w swydd fel saer maen a phen-gweithiwr ar Ystâd Margam ym 1919 tan ei ymddeoliad ym 1937.
Sarsiant Thomas Hughes
Roedd Thomas, a aned ym 1886 yn Nhai-bach, yn adeiladwr lleol, yn Gapten Brigâd Dân Margam ac yn frawd i William Richard Hughes.
Gwirfoddolodd ym 1915, gan ymuno â Chorfflu Meddygol y Fyddin a bu’n gwasanaethu mewn ysbytai maes yng Ngwlad Belg a Ffrainc. Mewn un ysbyty cyfarfu â'i frawd iau a oedd wedi’i wenwyno â nwy a'i anafu mewn brwydr.
Dychwelodd Thomas i fywyd pob dydd yn Nhai-bach ym 1919 a bu farw ym Mhort Talbot ym 1937.
Cecil Gunter
Bu Cecil Gunter, o Dyffryn Villas ym Maglan, yn gweithio yng ngwaith dur Albion a chafodd ei alw i ymuno â’r Llynges Frenhinol tua diwedd y rhyfel.
Bu’n gwasanaethu ar HMS Temeraire yn nwyrain môr y canoldir a chymerodd ran yng nglaniadau’r cynghreiriaid yng Nghear Gystennin ym mis Tachwedd 1918.
Ymfodudd i America ym 1948 a bu’un gweithio i Fanc Taleithiol Albany cyn symud yn ôl i Gaerdydd oherwydd afiechyd. Bu farw ym 1972.
Rupert Price Hallowes, VC
Ganed Rupert yn Redhill, surrey ym 1881, ond symudodd i Bort Talbot ym 1910 i ddod yn Rheolwr Cynorthwyol y Gwaith yng Ngwaith Tunplat Mansel lle’r oedd ei frawd hŷn, William, yn rheolwr.
Bu’n gwasanaethu fel Ysgrifennydd Cymdeithas y Dynion, Eglwys Loegr ac fel cyfeilydd yn Eglwys Sant Theodore. Roedd yn un o arweinwyr lleol mudiad y sgowtiaid a ffurfiodd batrôl sgowtiaid yn Eglwys Sant Pedr, Goetre ym 1913, gan barhau’n Arweinydd y Sgowtiaid yno nes iddo ymumo â Chatrawd Middlesex ym 1914.
Enillodd y Groes Filwrol am ddewrder a Chroes Victoria wedi iddo farw ar ôl cael ei glwyfo’n angheuol yn Hooge ym 1915.
Bu farw ar 30 Medi 1915, ac fe’i cleddir ym Mynwent Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad Tý Bedford, Zillebeke, ger Ypres.
Mae prif fynedfa Parc Coffa Talbot wedi’i chysegru iddo.
Edith Moore-Gwyn
Roedd Edith yn byw yn Nhŷ Dyfrfryn, Castell-nedd, ac roedd yn briod â J E Moore-Gwyn, Ustus Heddwch. Cyn y rhyfel, bu’n llywydd cymdeithas leol y Groes Goch a daeth yn Bennaeth Ysbyty Heol Parc y Gnoll yng Nghastell-nedd.
Dyfarnwyd yr OBE iddi yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin ar gyfer 1918 a pharhaodd i weithio i Gyngor Dosbarth Castell-nedd a’r Groes Goch ar ôl y rhyfel. Bu farw ym 1934.