VALOUR
Cyflwyniad
Mae VALOUR (yn Saesneg) yn rhaglen genedlaethol newydd sy'n ei gwneud yn haws i gyn-aelodau o'r Lluoedd Arfog a'u teuluoedd ledled y DU gael mynediad at y gofal a'r cymorth y maent yn eu haeddu.
Mae'n cysylltu pobl â sefydliadau lleol a chenedlaethol sy'n gallu darparu cymorth gyda'r canlynol:
- iechyd
- tai
- cyflogaeth
- cyllid
- llesiant
- heriau eraill sy'n effeithio ar fywyd bob dydd
Trosolwg
Mae Connected Forces Cymru yn ganolfan a gydnabyddir gan VALOUR ar gyfer De a Gorllewin Cymru. Wedi'i hariannu gan y Weinyddiaeth Amddiffyn drwy Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog, mae'n dod â rhwydwaith o sefydliadau ynghyd i gefnogi:
- cyn-aelodau o'r Lluoedd Arfog
- personél sy'n gwasanaethu
- teuluoedd y Lluoedd Arfog
Mae'r rhwydwaith yn cynnwys (yn Saesneg):
Mae'r rhaglen gychwynnol tair blynedd yn rhedeg rhwng 2026 a 2029, a disgwylir iddi gefnogi tua 13,500 o aelodau cymuned y Lluoedd Arfog ledled De a Gorllewin Cymru.
Drwy'r rhwydwaith, gall pobl gael cymorth gyda'r canlynol:
- iechyd
- tai
- cyflogaeth
- llesiant
Cael cymorth
Yn aml, bydd angen cymorth gan fwy nag un sefydliad ar bobl.
Bydd Connected Forces Cymru yn helpu pobl i ddod o hyd i'r cymorth sydd ei angen arnynt mewn un lle.
Bydd y cymorth yn cynnwys:
- canolfannau lleol ar agor hyd at chwe diwrnod yr wythnos
- atgyfeiriadau at wasanaethau iechyd, tai, cyflogaeth a lles
- cymorth i bobl na allant fynychu'n bersonol
- cymorth gan unrhyw sefydliad partner, ni waeth pa un y bydd pobl yn cysylltu ag ef gyntaf
Bydd y rhwydwaith yn defnyddio dull "dim drws anghywir". Mae hyn yn golygu y gall pobl ddechrau gydag unrhyw sefydliad partner a dal i gael y cymorth sydd ei angen arnynt.
Dod â gwasanaethau ynghyd
Gall cyn-aelodau o'r Lluoedd Arfog, personél sy'n gwasanaethu a theuluoedd y Lluoedd Arfog gael cymorth drwy gydweithrediad o sefydliadau lleol ledled De a Gorllewin Cymru.
Gyda'i gilydd, mae'r sefydliadau'n darparu:
- mannau diogel a chroesawgar
- gweithgareddau cymdeithasol a chysylltiadau cymunedol
- cymorth ymarferol gyda heriau bob dydd
- gwasanaethau wedi'u teilwra i anghenion unigol
Nod y cydweithrediad yw lleihau unigedd, gwella llesiant a'i gwneud yn haws i bobl gael y cymorth sydd ar gael iddynt.
Mae Bulldogs Boxing & Community Activities (Bulldogs BCA) yn arwain canolfan Connected Forces Cymru sydd wedi'i hachredu gan VALOUR. Mae'n cydlynu mynediad at wasanaethau ar gyfer cyn-aelodau o'r Lluoedd Arfog, pobl sy'n gadael y gwasanaeth a theuluoedd y Lluoedd Arfog ledled De a Gorllewin Cymru.
Dywedodd Ceri Stilwell, Prif Weithredwr Bulldogs Boxing & Community Activities:
"Bydd Connected Forces Cymru yn ei gwneud yn haws i bobl gael y cymorth sydd ar gael iddynt. Mae'r cyllid hwn yn galluogi sefydliadau lleol i weithio gyda'i gilydd drwy un rhwydwaith, gan helpu cyn-aelodau o'r Lluoedd Arfog, pobl sy'n gadael y gwasanaeth a'u teuluoedd i ddod o hyd i'r cymorth cywir yn gyflymach."
Sefydlu canolfannau lleol
Bydd y partneriaid yn sefydlu canolfannau cymunedol ledled De Cymru.
Bydd gwybodaeth am leoliadau, gwasanaethau a sut i gael cymorth yn cael ei rhannu wrth i'r rhaglen ddatblygu.