Dysgu a defnyddio'r Gymraeg
Dysgu Cymraeg
Os hoffech chi ddysgu Cymraeg neu wella'ch sgiliau iaith, ewch i'r wefan Dysgu Cymraeg i gael gwybodaeth am gyrsiau yn eich ardal.
Mae cyrsiau ac adnoddau Dysgu Cymraeg ar gael yn rhad ac am ddim i bobl ifanc 16-25 oed. Am fwy o wybodaeth, ewch i Dysgu Cymraeg Cymru
Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot
Mae Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot yn gweithredu ar draws y sir i annog a hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg. Yn ogystal â rhoi'r cyfle i bobl ddefnyddio'r Gymraeg, maent yn darparu gwybodaeth i bobl nad ydynt yn siarad Cymraeg ar fanteision dysgu Cymraeg a'r cyfleoedd i wneud hynny.
Am wybodaeth am weithgareddau a digwyddiadau Cymraeg sy'n cael eu cynnal ar draws Castell-nedd Port Talbot i blant, pobl ifanc, teuluoedd a'r gymuned ehangach, ewch i'w gwefan Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot
Help gyda gwaith cartref Cymraeg yng Nghastell-nedd Port Talbot
Mae Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot ynghyd â Menter Abertawe wedi creu adnodd i rieni â phlant sy'n derbyn addysg Gymraeg i'w helpu gyda gwaith cartref ac addysg. Mae grŵp Facebook newydd 'Welsh Homework Help in Swansea and NPT' ar gael i rieni a hefyd i athrawon sy'n barod i gynnig help a chefnogaeth. Mae'r grŵp yn galluogi aelodau i bostio cwestiynau/tasgau gwaith cartref penodol a chael help a chyngor gan aelodau eraill.
Os ydych yn rhiant a hoffech gael ychydig o help ymarferol gyda gwaith cartref, ymunwch â grŵp Facebook 'Welsh Homework Help in Swansea and NPT'.
Croeso i'r Gymraeg
Os dych chi'n newydd i Gymru a ddim yn siarad llawer o Saesneg, ewch i Groeso i'r Gymraeg, am gyrsiau ac adnoddau ar gael trwy gyfrwng ieithoedd gwahanol.