Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Ystadegau Rhyddid Gwybodaeth

Trosolwg

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn darparu hawl statudol i fynediad at wybodaeth a ddelir gan yr awdurdodau lleol. Fel awdurdod cyhoeddus, mae'n ofynnol i'r Cyngor ymateb i bob cais am wybodaeth o fewn amserlen benodol a gweithredu unrhyw eithriadau yn unol â'r ddeddfwriaeth.

Mae monitro ac adrodd ar ystadegau Rhyddid Gwybodaeth a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol yn galluogi'r Cyngor i arddangos cydymffurfiaeth â'i ddyletswyddau statudol, hyrwyddo tryloywder ac atebolrwydd, ac adnabod tueddiadau mewn ceisiadau am wybodaeth. Mae'r data’n darparu cadarnhad bod ceisiadau’n cael eu trin yn briodol, bod penderfyniadau datgelu’n cael eu gwneud yn unol â'r ddeddfwriaeth, a bod perfformiad yn erbyn terfynau amser statudol yn cael ei adolygu'n rheolaidd.

Mae'r ystadegau hyn hefyd yn cefnogi llywodraethu gwybodaeth effeithiol gan amlygu mannau lle gall fod angen adnoddau, hyfforddiant neu welliannau ychwanegol i brosesau er mwyn rheoli galw a gwella perfformiad. Mae adrodd yn rheolaidd yn helpu i sicrhau bod y Cyngor yn parhau i gyrraedd disgwyliadau Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ac yn cynnal hyder cyhoeddus o ran ei driniaeth o geisiadau am wybodaeth.

Felly, mae'r ffigurau chwarterol yn darparu trosolwg o nifer y ceisiadau, amseroedd ymateb a chanlyniadau datgelu, gan alluogi Aelodau a phrif swyddogion i fonitro cydymffurfiaeth â'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 a goruchwylio ymrwymiad y Cyngor i ddidwylledd a thryloywder.

Ystadegau chwarterol

Disgrifiad Nifer y ceisiadau
Nifer y ceisiadau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod 331
Nifer y ceisiadau a dderbyniwyd sydd heb gael eu prosesu hyd yn hyn 106
Nifer y ceisiadau a dderbyniwyd sydd heb gael eu prosesu hyd yn hyn (wedi'u hoedi) 5
Nifer y ceisiadau a dderbyniwyd sydd wedi'u prosesu’n llawn - o fewn y terfyn amser statudol 205
Nifer y ceisiadau a dderbyniwyd sydd wedi'u prosesu’n llawn – y tu allan i'r terfyn amser statudol 42
Nifer y ceisiadau lle cymeradwywyd yr wybodaeth yn llawn 247
Nifer y ceisiadau lle gwrthodwyd yr wybodaeth yn llawn 43
Nifer y ceisiadau lle gwrthodwyd yr wybodaeth yn llawn, gydag eithriad 42
Nifer y ceisiadau lle cymeradwywyd a gwrthodwyd yr wybodaeth yn rhannol  22

Ystadegau blynyddol

Disgrifiad Nifer y ceisiadau 2025/2026

Nol i ben y dudalen