Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Sut mae'r cyngor yn gweithio

Mae'r Cyngor yn cynnwys 60 o Gynghorwyr a etholwyd yn lleol sy'n cynrychioli 34 dosbarth o Gastell-nedd a Phort Talbot. Maent yn gwneud penderfyniadau ar sut mae'r Cyngor yn cael ei redeg a sut i wella gwasanaethau lleol ar ran pobl leol.  Mae'r ffordd y mae Cynghorwyr yn gwneud penderfyniadau yn cael ei lywio gan syniadau'r pleidiau gwleidyddol y maent yn eu cynrychioli:

  • 22 Llafur Cymru
  • 20 Annibynnol
  • 11 Plaid Cymru
  • 4 Grŵp y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Annibynnwyr
  • 3 Heb Eu Haffilio

Maer a Maer Dirprwy

Maer Castell-nedd Port Talbot yw'r Cynghorydd Alan Lockyer.

Dirprwy Faer Castell-nedd Port Talbot yw'r Cynghorydd James Henton.

Rhagor o wybodaeth am Faer Castell-nedd Port Talbot.

Pwyllgorau

ap modern.gov ar gael - Gweld dogfennau pwyllgor cyhoeddus sydd ar ddod ar eich iPad, Dyfais Android neu Blackberry Playbook gyda'r ap modern.gov yn rhad ac am ddim.

Mae nifer o bwyllgorau â swyddogaethau gwahanol gan bob un.

I gael rhagor o wybodaeth am bwyllgorau a phaneli, ewch i tudalennau Craffu a Gweithrediaeth.

Rheolaeth

Rheolir y cyngor a'i wasanaethau beunyddiol gan:

  • Frances O’Brien, Prif Weithredwr
  • Nicola Pearce, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio
  • Andrew Thomas, Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes 
  • Andrew Jarrett, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai
  • Noewlyn Daniel, Cyfarwyddwr Strategaeth a Gwasanaethau Corfforaethol
  • Huw Jones, Cyfarwyddwr Cyllid

Gweler strwythur rheoli'r Cyngor a'i swyddogaethau eang.

Nol i ben y dudalen