Datganiad I'r Wasg
-
Gwahoddir busnesau i wneud cais am grantiau o hyd at £1.5m wrth i gronfa bontio newydd Tata Steel agor19 Mawrth 2026
Mae busnesau ar draws Castell-nedd Port Talbot, Abertawe a Phen-y-bont ar Ogwr yn cael eu gwahodd i wneud cais am gyfle cyllido mawr newydd sydd wedi'i fwriadu i gefnogi buddsoddiad, twf a chreu swyddi fel rhan o bontio Tata Steel.
-
Cyngor yn amlinellu cynllun buddsoddi o bwys i wella cymdogaethau ar draws y Fwrdeistref Sirol19 Mawrth 2026
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cymeradwyo rhaglen o fuddsoddiad a gynlluniwyd i wella cymdogaethau, cryfhau isadeiledd lleol, a chefnogi cymunedau ar draws y Fwrdeistref Sirol. Bydd y Cynllun Gwella Cymdogaethau’n cyfeirio tua 34.5m o gyllid i mewn i ardaloedd blaenoriaeth dros y tair blynedd nesaf.
-
Gwaith adeiladu wedi dechrau i godi canolfan ymchwil SWITCH ym Mhort Talbot17 Mawrth 2026
Mae’r gwaith adeiladu bellach wedi dechrau ar Hyb Diwydiannol Pontio o Garbon De Cymru, a elwir hefyd yn SWITCH. Dyma gyfleuster ymchwil gwerth £28 miliwn a gynlluniwyd y gyflymu’r gwaith o ddatgarboneiddio’r sector dur a metelau. Pan fydd yn gweithredu’n llawn, disgwylir i hyd at 95 o staff gael eu lleoli yno.
-
Cyfleusterau Gwerth £12m yn Agor yn Swyddogol ym Mharc Gwledig Gnoll, Castell-nedd17 Mawrth 2026
Mae ailddatblygiad o bwys i Barc Gwledig Gnoll, yng Nghastell-nedd, sy’n werth £12 miliwn, wedi agor yn swyddogol.
-
Maer Ieuenctid Newydd yn “Llawn Cyffro” i Ddechrau Rôl Newydd gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot16 Mawrth 2026
Mae Maer Ieuenctid newydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot (CNPT) a gafodd ei “magu eisiau bod yn rhan o’r Cyngor Ieuenctid” wedi cael ei sefydlu a’i hurddo’n swyddogol yn ystod seremoni arbennig yng Nghanolfan Ddinesig y Cyngor.
-
Plac Glas yn cael ei Arddangos i Ddathlu’r Cymro Cyntaf i Ennill Oscar10 Mawrth 2026
Mae Plac Glas bellach wedi’i osod ar dŷ yng Nghastell-nedd – cartref plentyndod seren Hollywood leol.
-
Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn Sicrhau Miliynau i Drigolion drwy Gymorth Costau Byw10 Mawrth 2026
Helpodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot drigolion i gael gafael ar filiynau o bunnau mewn incwm ychwanegol yn ystod 2024-2025, fel rhan o'i waith parhaus i leihau effaith pwysau costau byw ledled y fwrdeistref sirol.
-
Cyhoeddi'r camau nesaf i Genedl Marmot Cymru03 Mawrth 2026
Mae Castell-nedd Port Talbot yn un o bum ardal awdurdod lleol i gael cyllid i ddod yn arloeswr ar gyfer uchelgais ‘Cenedl Marmot’, a gyhoeddwyd mewn Uwchgynhadledd Tegwch Iechyd yng Nghaerdydd (dydd Mawrth 24 Chwefror).
-
Arddangosfa Plac Glas i nodi 80 mlynedd ers i actor o Gymru ennill Oscar am y tro cyntaf27 Chwefror 2026
Bydd dyn o Gastell-nedd a sefydlodd waddol enfawr iddo’i hun yn Hollywood yn cael ei anrhydeddu â Phlac Glas i gofio amdano.
-
Dedfryd i Ddyn o Bort Talbot ar ôl Trosedd Tipio Anghyfreithlon Ganol Nos27 Chwefror 2026
Mae dyn o Bort Talbot wedi cael gorchymyn i dalu mwy na £1,000 ar ôl cael ei ddal yn tipio'n anghyfreithlon ar dir ger gorsaf drenau'r dref.
- Tudalen 1 o 54
- Tudalen 2
- ...
- Tudalen 54
- ⠀Nesaf
- ⠀Diwethaf