Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Datganiad I'r Wasg

  • Mae portffolio’r Fargen Ddinesig yn cael ei gydnabod am ei effaith gadarnhaol drwy ennill rhai o brif wobrau’r diwydiant
    27 Mawrth 2023

    Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe, sy'n dechrau trawsnewid de-orllewin Cymru yn rhanbarth ffyniannus a chynaliadwy i'w drigolion weithio a byw ynddo, wedi cael cydnabyddiaeth drwy ennill nifer o wobrau nodedig y diwydiant yn ystod y 12 mis diwethaf.

  • Prydau ysgol am ddim i’w cyflwyno i blant cynradd Blwyddyn 3 a 4 yng Nghastell-nedd Port Talbot
    24 Mawrth 2023

    Bydd 1908 yn ychwanegol o blant ysgol gynradd ym mlynyddoedd 3 a 4 yn derbyn prydau ysgol am ddim yng Nghastell-nedd Port Talbot.

  • Cael statws Porthladd Rhydd yn rhoi’r rhanbarth ar flaen y gad yn y chwyldro ynni gwyrdd byd-eang medd Dirprwy Arweinydd
    24 Mawrth 2023

    Bydd y Porthladd Rhydd Celtaidd newydd yn rhoi de orllewin Cymru ar flaen y gad yn chwyldro ynni gwyrdd y byd, meddai Dirprwy Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Alun Llewelyn, wrth gyfarfod arbennig o’r cyngor ddydd Iau, Mawrth 23, 2023.

  • Cynnig gweddnewidiol ar gyfer Porthladd Rhydd Celtaidd yn cael ei gymeradwyo
    23 Mawrth 2023

    Mae consortiwm cyhoeddus-breifat y Porthladd Rhydd Celtaidd wedi ymateb i’r cyhoeddiad heddiw ei fod wedi’i roi ar y rhestr fer gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar gyfer statws porthladd rhydd.

  • Gwasanaeth Coffa Blynyddol Sul y Blodau’n dychwelyd i Amlosgfa Margam yn 2023
    15 Mawrth 2023

    Hoffai Cyngor Castell-nedd Port Talbot atgoffa preswylwyr fod y Gwasanaeth Sul y Blodau blynyddol ar gyfer y rheiny a amlosgwyd yn Amlosgfa Margam yn ailddechrau.

  • Cyllid Llwyddiannus yn Hybu Hygyrchedd ym Mharc Gwledig Margam
    14 Mawrth 2023

    Mae Cyfeillion Parc Margam wrth eu bodd o dderbyn cyllid fel rhan o Gronfa Fuddion Cymunedol Fferm Wynt Mynydd Brombil i brynu tri sgwter symudedd pob-tirwedd newydd sbon.

  • Cyngor i ddechrau ar gynllun rheoli llifogydd ‘naturiol’ mewn coetir gerllaw Parc Gwledig Gnoll
    13 Mawrth 2023

    Bydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn dechrau ar gynllun rheoli llifogydd mewn dull naturiol cyn bo hir ymysg coed a blannwyd gan Goed Cadw ar Fferm Brynau wrth ochr Parc Gwledig Gnoll.

  • Paratowch ar gyfer Gwobrau Dinesig y Maer am yr eildro!
    08 Mawrth 2023

    Gosodwyd y dyddiad ar gyfer cynnal Gwobrau Dinesig Maer Castell-nedd Port Talbot, digwyddiad blynyddol sy’n cael ei gynnal yr ail dro eleni.

  • Rhaglen sy’n werth £3.23m i atgyweirio a chynnal llwybrau, heolydd, pontydd a draenio ledled CPT
    07 Mawrth 2023

    Mae aelodau Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cymeradwyo rhaglen eang gwerth £3.23m o welliannau, gwaith atgyweirio a chynnal a chadw ar gyfer llwybrau cerdded, heolydd, pontydd a systemau draenio ymhob rhan o’r fwrdeistref sirol.

  • Cyngor yn darparu cyllideb gytbwys wrth warchod swyddi a gwasanaethau allweddol
    06 Mawrth 2023

    Cafodd cyllideb gytbwys sy’n gwarchod gwasanaethau hanfodol ac yn diogelu cannoedd o swyddi lleol, ac ar yr un pryd yn cynyddu gwariant mewn meysydd pwysig fel addysg a gwasanaethau cymdeithasol, ei gymeradwyo mewn cyfarfod arbennig o Gyngor Castell-nedd Port Talbot ddydd iau (2 Mawrth 2023).

Rhannu eich Adborth