Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Dogfen

Newidiadau i’r rheoliadau adeiladu o 1 Gorffennaf 2026

Gofynion diogelwch adeiladau newydd yng Nghymru

O 1 Gorffennaf 2026, bydd newidiadau i’r rheoliadau adeiladu yng
Nghymru yn cyflwyno trefn diogelwch adeiladau newydd a fydd yn
effeithio ar y ffordd y mae gwaith adeiladu yn cael:

  • ei ddylunio
  • ei
    gymeradwyo
  • a’i gyflawni

Mae’r newidiadau hyn yn rhan o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 a’r
rheoliadau Cymreig cysylltiedig.

Nid yn unig y bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar waith ar adeiladau
uchel, ond byddant yn berthnasol i bob gwaith adeiladu “rheoledig”, gan
gynnwys mân waith a gyflawnir gan:

  • berchnogion tai
  • adeiladwyr
  • datblygwyr

Beth sy'n newid

Mae cyfrifoldebau newydd yn cael eu cyflwyno ar gyfer y bobl hynny sy’n
ymwneud â chyflawni gwaith adeiladu rheoledig.

Bydd pob prosiect adeiladu yn ddarostyngedig i system newydd o
ddeiliaid dyletswydd. Mae hyn yn golygu:

  • mae gan gleientiaid, dylunwyr a chontractwyr gyfrifoldebau cyfreithiol
    clir
  • rhaid iddynt sicrhau bod y gwaith yn cydymffurfio â’r Rheoliadau
    Adeiladu drwy gydol y prosiect a bydd angen iddynt ddarparu
    datganiadau cadarnhau ysgrifenedig

Gall cleientiaid domestig, os ydynt yn gymwys i wneud hynny, ymgymryd
â rôl y Prif Ddylunydd a’r Prif Gontractwr, ond rhaid iddynt fod yn
ymwybodol o’r dyletswyddau a’r cyfrifoldebau wrth wneud hynny.

Mae hwn yn newid sylweddol yn y ffordd y mae cydymffurfiaeth yn cael
ei rheoli, ac er mai felly y bu erioed fod y cyfrifoldeb am gydymffurfiaeth
yn gorwedd gyda’r sawl sy’n cyflawni’r gwaith, mae’r rheoliadau newydd
yn nodi’n ffurfiol nad yw’r cyfrifoldeb yn gorwedd gyda Rheolaeth
Adeiladu ar ddiwedd prosiect.

Mwy o bwyslais ar gynllunio a chydymffurfiaeth o’r dechrau

Ar gyfer ceisiadau Cynlluniau Llawn bydd angen i ymgeiswyr:

  • sicrhau bod dyluniadau’n gyflawn ac yn cydymffurfio cyn i’r gwaith
    ddechrau
  • darparu gwybodaeth gywir i Reolaeth Adeiladu
  • cadw cofnodion da o benderfyniadau a newidiadau

Gall cyflwyniadau sydd wedi’u paratoi’n wael neu sy’n anghyflawn
arwain at oedi neu wrthod.  

Pwerau gorfodi cryfach i Awdurdodau Lleol

O fis Gorffennaf 2026 bydd gan gynghorau bwerau ychwanegol i:

  • cyhoeddi hysbysiadau cydymffurfio sy’n mynnu bod materion yn
    cael eu cywiro
  • cyhoeddi hysbysiadau stop i atal gwaith anniogel neu waith nad
    yw’n cydymffurfio
  • cymryd camau gorfodi dros gyfnod hirach (hyd at 10 mlynedd
    mewn rhai achosion)

Mae’r pwerau hyn wedi’u cynllunio i wella safonau a diogelu diogelwch y
cyhoedd. 

Beth mae hyn yn ei olygu i brosiectau adeiladu nodweddiadol

Ar gyfer y rhan fwyaf o brosiectau (e.e. estyniadau tai, trosiadau llofft,
addasiadau mewnol) mae’r llwybrau ymgeisio yn aros yn fras yr un fath:

  • ceisiadau Cynlluniau Llawn
  • Hysbysiadau Adeiladu (lle bo’n briodol)
  • ceisiadau rheoleiddio

Ond rhaid i’r ffordd rydych yn paratoi ac yn rheoli prosiectau wella. Dylech nawr:

  • sicrhau bod dyluniadau’n bodloni’r Rheoliadau Adeiladu’n llawn
    cyn dechrau ar y gwaith
  • penodi dylunwyr a chontractwyr cymwys
  • deall yn glir pwy sy’n gyfrifol am gydymffurfiaeth ar wahanol
    gamau
  • cadw cofnodion o newidiadau yn ystod y gwaith adeiladu

Enghreifftiau o waith yr effeithir arno

Mae’r newidiadau hyn yn berthnasol i BOB gwaith adeiladu rheoledig,
gan gynnwys:

  • pob gwaith masnachol
  • anheddau newydd
  • estyniadau a newidiadau i dai
  • trosiadau garejis
  • trosiadau llofft
  • addasiadau strwythurol (e.e. tynnu waliau)
  • gosod systemau draenio, gwresogi neu drydanol

Rhaid i hyd yn oed prosiectau bach gydymffurfio â’r fframwaith
cyfrifoldeb newydd.

Beth sy’n digwydd os nad yw gwaith yn cydymffurfio

O dan y drefn newydd:

  • efallai y bydd gofyn i chi gywiro neu dynnu gwaith nad yw’n
    cydymffurfio
  • gellir atal gwaith ar unwaith os oes pryder diogelwch
  • gellir cymryd camau gorfodi flynyddoedd ar ôl ei gwblhau

Trefniadau trosiannol

Gall prosiectau a gyflwynwyd cyn 1 Gorffennaf 2026 fod yn
ddarostyngedig i drefniadau trosiannol, yn dibynnu ar:

  • pryd y gwnaed y cais
  • a yw’r gwaith wedi dechrau

Os oes gennych gymeradwyaeth eisoes, neu os yw cais wedi’i adneuo,
cysylltwch â Rheolaeth Adeiladu am gyngor.