Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Gwybodaeth i ymwelwyr

Dyddiadau

Ffair hwyl

Dydd Mawrth 9 i ddydd Sadwrn 13 Medi 2025.

  • Dydd Mawrth-Dydd Iau 6pm-10pm
  • Dydd Gwener 4pm-10pm
  • Dydd Sadwrn 12 hanner dydd-10pm

Ffair stryd

Dydd Mercher 10 i ddydd Sadwrn 13 Medi 2025.

9am tan 10pm ar bob un o'r pedwar diwrnod.

Digwyddiadau

Mae'r ffair yn cynnwys:

  • Fair Hwyl - sydd wedi cael ei lleoli ym maes parcio Heol Milland. Bydd yn cynnwys reidiau gwefr, ceir clatsio, olwyn fawr ac atyniadau eraill i bobl o bob oed. Mae'r Ffair Hwyl yn cael ei redeg gan 'Showman's Guild of Great Britain'.
  • Ffair Stryd - sydd wedi cael ei lleoli yn y prif strydoedd canol tref Castell-nedd. Bydd amrywiaeth eang o gynhyrchion gan fasnachwyr yn y DU ar werth, gan gynnwys bwydydd artisan, tecstilau, dodrefn a nwyddau cartref.

Cau ffyrdd

O ddydd Llun 8fed – dydd Sadwrn 13eg Medi 2025, bydd ffyrdd ar gau ar draws Canol Tref Castell-nedd.

Bydd y strydoedd hyn yn cynnwys:

  • Angel Street
  • Angel Square
  • Cattle Street
  • Church Place
  • Green Street
  • New Street
  • Orchard Street
  • Queen Street
  • The Parade
  • Wind Street

Yr unig faes parcio na fydd modd mynd iddo yw Maes Parcio Stryd Fawr Castell-nedd, a fydd yn cael ei ddefnyddio gan fasnachwyr y ffair.

I gael rhagor o wybodaeth am gau ffyrdd, cysylltwch â Charlotte Cole, Uwch Swyddog Digwyddiadau – c.cole@npt.gov.uk

Rhannu eich Adborth