Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Bwyd, diod ac adloniant

""

GWYL BWYD A DIOD Castell-nedd 2025 - CANSLO'R DIGWYDDIAD Ar ôl ystyriaeth ofalus, rydym wedi gwneud y penderfyniad anodd i ganslo Gŵyl Bwyd a Diod Castell-nedd yfory oherwydd tywydd gwael a gwynt gormodol. Nid yw'r penderfyniad hwn wedi'i wneud yn ysgafn ond mae'n angenrheidiol i sicrhau iechyd a diogelwch pawb sy'n gysylltiedig. Mae'n ddrwg gennym siomi ein masnachwyr gwych a'n hymwelwyr ffyddlon. Gobeithiwn y byddwch yn ymuno â ni yn nigwyddiad y flwyddyn nesaf!

Mwynhewch eich synhwyrau

Disgwyliwch fwyd amrywiol o pice ar y maen i ymasiad a bwyd stryd o bedwar ban byd. Gyda digon o opsiynau llysieuol, fegan a di-glwten ar gael.

Bwyd a diod

Gall ymwelwyr archwilio bwyd a chynnyrch Cymreig gan dros 50 o werthwyr amrywiol, gan gynnwys:

  • Marchnadoedd bwyd dros dro
  • Cawsiau a phwdinau crefftus
  • Cig, llaeth a bwyd môr
  • Llysiau organig
  • Cwrw, seidr a gwirodydd crefftus

Adloniant

Mwynhewch awyrgylch bywiog a chyfeillgar, gyda digwyddiadau amrywiol yn cael eu cynnal dros ddau ddiwrnod:

  • Stondinau crefft
  • Cerddoriaeth fyw
  • Perfformiadau stryd
  • Arddangosiadau coginio
  • Gweithdai

Rhannu eich Adborth