Gyda hanes cyfoethog yn dyddio'n ôl ganrifoedd, mae Port Talbot wedi bod yn ganolfan diwydiant, diwylliant ac adloniant ers amser maith. Heddiw mae treftadaeth amrywiol ac ysbryd cyfoes y dref yn cael eu hadlewyrchu yn ein hystod eang o:
- atyniadau
- bwytai
- siopau annibynnol
Mae gan Ganol Tref Port Talbot rywbeth at ddant pobl leol ac ymwelwyr. Mae'n lle perffaith i dreulio diwrnod yn crwydro. Felly beth am ddod i weld popeth sydd gan y dref gyffrous hon i'w gynnig.
Pethau i'w gweld a'u gwneud
Mae digon i'w weld a'i wneud ar gyfer pobl leol a phobl sy'n ymweld am y dydd.
Siopa
Mae amrywiaeth eang o siopau ar hyd y strydoedd i gerddwyr a Chanolfan Siopa Aberafan.
Gallwch ddod o hyd i bopeth o frandiau stryd fawr adnabyddus i fanwerthwyr annibynnol.
Bwyd a Diod
Os ydych chi'n teimlo'n newynog, mae digon o opsiynau i ddewis ohonynt yng nghanol ein tref.
Mae ein bwytai a’n caffis yn gweini popeth o brydau Cymreig traddodiadol i ffefrynnau rhyngwladol.
Theatr y Dywysoges Frenhinol
Mae gan Bort Talbot sîn gelfyddydol a diwylliant lewyrchus.
Mae Theatr y Dywysoges Frenhinol, a enwyd er anrhydedd i'r Dywysoges Anne, yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau diwylliannol trwy gydol y flwyddyn.
Y Plaza Newydd
Mae'r Plaza Newydd, adeilad art-deco rhestredig Gradd II a drawsnewidiwyd yn ddiweddar bellach yn ganolbwynt cymunedol o gyfleusterau, sy’n cynnwys:
- theatr
- campfa
- caffi
- canolbwynt busnes
- ystafelloedd amlbwrpas
- stiwdio recordio digidol
Celfyddydau a diwylliant
Mae'r dref wedi cynhyrchu llawer o berfformwyr dawnus a enillodd enwogrwydd rhyngwladol.
Ymhlith y rhai mwyaf nodedig mae:
- Syr Anthony Hopkins, enillydd Oscar gyda gyrfa yn ymestyn dros bum degawd
- Richard Burton, yn adnabyddus am ei bresenoldeb nerthol a'i lais bythgofiadwy
- Michael Sheen, seren gymeradwy y llwyfan a’r sgrin
Hamdden
2.5 milltir o ganol y dref fe welwch Ganolfan Hamdden a Ffitrwydd Aberafan.
Y lle perffaith i ddysgu sut i:
- nofio
- dod yn heini
- dadflino
Mae'r lleoliad hefyd yn gartref i gaffi deniadol i bawb sy'n ymweld â'r traeth yn ogystal â defnyddwyr y ganolfan.
Glan y môr Aberafan
Ychydig bellter i ffwrdd, mae glan y môr Aberafan yn cynnig profiad arfordir prydferth, gyda’i:
- traeth tywodlyd eang
- promenâd bywiog
- golygfeydd o sianel Bryste
Trafnidiaeth
Mae cyrraedd canol tref Port Talbot yn hawdd, gyda:
- cysylltiadau trafnidiaeth ar drên a bws
- meysydd parcio fforddiadwy a chyfleus
- raciau beiciau ar gael i barcio beiciau'n ddiogel yng nghanol y dref