Hyfforddiant a gweithdai i fusnesau yng nghanol trefi
Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau hyfforddi a gweithdai tn rhad ac am ddim i gefnogi busnesau a sefydliadau yn canol ein trefi. Mae'r cyrsiau a'r gweithdai hyn wedi'u cynllunio i ddarparu sgiliau a chyfarwyddyd gwerthfawr.
Cymhwysedd
Mae cyrsiau yn rhad ac am ddim i'w mynychu ar gyfer busnesau a sefydliadau sydd wedi'u lleoli o fewn ffiniau canol y dref:
- Glyn-nedd
- Castell-nedd
- Pontardawe
- Port Talbot
Manylion cyrsiau
Gwobr Diogelwch Bwyd Lefel 2
Dyddiad: Dydd Mawrth, 17 Mehefin
Amser: 9:30yb – 16:00yp
Lleoliad: Canolfan Celfyddydau Pontardawe
Nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael, felly cysylltwch â ni yn TownCentreSupport@npt.gov.uk i gadw lle.
Gweithdai hygyrchedd
Mae’n bleser gennym eich gwahodd i’n gweithdai i ddechreuwyr i’ch helpu i ddysgu mwy am greu amgylcheddau cynhwysol yng nghanol ein trefi. Mae sicrhau bod ein busnesau'n hygyrch i bawb yn ofyniad cyfreithiol. Ond mae'n hefyd yn agwedd hollbwysig ar ddarparu profiad rhagorol i gwsmeriaid.
Mae hygyrchedd yn mynd y tu hwnt i addasiadau ffisegol. Mae'n cynnwys creu amgylchedd cynhwysol i bob cwsmer, megis:
- cynnig gwasanaethau yn Iaith Arwyddion Prydain (BSL) i gwsmeriaid byddar neu drwm eu clyw
- gweithredu sesiynau tawel i bobl ag awtistiaeth a sensitifrwydd synhwyraidd
Efallai na fydd llawer o fusnesau'n ystyried yr agweddau hyn ar unwaith o dan ymbarél hygyrchedd, ond maent yn hanfodol ar gyfer meithrin cymuned gynhwysol.
Manylion gweithdai
Ymwybyddiaeth awtistiaeth – cymuned/manwerthu
Dyddiad: Dydd Mercher, 11eg Mehefin
Amser: 12:30yp – 14:30yp
Lleoliad: Canolfan Tir Morfa, Port Talbot
Cyfarfod a chyfarch Iaith Arwyddion Prydain – cymuned/manwerthu
Dyddiad: Dydd Mercher, 25ain Mehefin
Amser: 9:30yb – 11:30yb
Lleoliad: Canolfan Tir Morfa, Port Talbot
Mae lleoedd yn gyfyngedig, felly cysylltwch â ni TownCentreSupport@npt.gov.uk i gadw lle.
Bydd angen:
- enw eich busnes
- cyfeiriad eich busnes
- enwau llawn y mynychwyr
Drwy gymryd y camau hyn, gallwn sicrhau bod canol ein trefi yn groesawgar i bawb, gan fod o fudd i gwsmeriaid a busnesau.
Edrychwn ymlaen at eich gweld yn y gweithdai!