Dydd Gŵyl Dewi yng nghanol ein trefi
Trosolwg
Ymunwch â ni wrth i ganol ein pedwar tref ddod at ei gilydd i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi. Drwy gydol mis Chwefror a Dydd Gŵyl Dewi byddant yn fyw gyda lliw, creadigrwydd ac ysbryd cymunedol Cymreig.
Mae rhywbeth i bawb:
- arddangosfeydd ffenestri
- adrodd straeon
- bwydlenni arbennig
- gweithgareddau teuluol
Cystadleuaeth addurno ffenestri
Mewn partneriaeth â Menter Iaith
Rydym yn cynnal cystadleuaeth addurno ffenestri â thema Gymreig ar gyfer busnesau a sefydliadau canol tref. Maen nhw wedi’u gwahodd i greu arddangosfeydd dychmygus â thema Gymreig, gan gynnwys pethau fel:
- dreigiau
- cennin pedr
- cestyll
- baneri
- crefftau traddodiadol
Bydd Menter Iaith yn ymweld â chanol y trefi ar 25 Chwefror i ddewis ffenestri buddugol eleni.
Beth am fynd am dro o amgylch canol pob un o’n trefi a mwynhau’r arddangosfeydd lliwgar drosoch eich hun? Gwelwch faint o themâu allwch chi eu gweld, a dewiswch ffefrynnau eich hun ar hyd y ffordd!
Gweithdy canu Dydd Gŵyl Dewi
Mewn partneriaeth â Chelfyddydau San Portablo
Rydym yn falch o gynnig gweithdy canu arbennig ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi. Bydd cyfle i gyfranogwyr ddatblygu eu sgiliau lleisiol, perfformio ac ysgrifennu caneuon.
Mae'r gweithdy deuddydd hwn yn rhad ac am ddim. Bydd yn gorffen gyda pherfformiad cyhoeddus, lle gall y mynychwyr arddangos eu darnau creadigol ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi i gynulleidfa.
Manylion y gweithdy
- Dyddiadau: 18fed - 19eg Chwefror
- Amser: 10:00yb - 3:00yp
- Lleoliad: Celfyddydau San Portablo, Canolfan Siopa Aberafan
Sesiynau adrodd straeon wedi'u hysbrydoli gan Gymru
Rydyn ni wrth ein bodd i gydweithio â'n llyfrgelloedd lleol i gyflwyno "Tales from the Time Between Times" gyda Owen Staton - storïwr a chyflwynydd podlediad.
Camwch i mewn i’r amser rhwng amseroedd, lle mae’r byd modern yn pylu ac mae hen straeon Cymru’n dechrau symud. Mae Owen yn rhoi bywyd i chwedlau llafar a straeon ysbrydion ein gwlad:
- straeon am ysbrydion aflonydd
- rhybuddion hynafol
- lleoedd lle mae'r gorffennol yn dal i anadlu
Wedi'u hadrodd yn uchel yng nghanol tawelwch y llyfrgell, mae'r straeon hyn yn trawsnewid mannau cyfarwydd yn byrth rhwng y pryd hynny a'r presennol. Ymgasglwch yn agos, gwrandewch yn ofalus… a gadewch i Gymru siarad.
Er bod y straeon hyn wedi'u llunio ar gyfer cynulleidfaoedd oedolion, gallant hefyd gael eu mwynhau gan wrandawyr iau 8 oed a hŷn.
Dyddiadau ac amserau
Dydd Llun 23 Chwefror – Llyfrgell Pontardawe, 18:00–19:00
- E-bost: pontardawe.library@npt.gov.uk
- Ffôn: 01792 862261
Dydd Mawrth 24 Chwefror – Llyfrgell Glyn-nedd, 18:00–19:00
- E-bost: glynneath.library@npt.gov.uk
- Ffôn: 01639 720776
Dydd Sadwrn 28 Chwefror – Llyfrgell Port Talbot, 11:00–12:00
- E-bost: porttalbot.library@npt.gov.uk
- Ffôn: 01639 763491
Dydd Sadwrn 28 Chwefror – Llyfrgell Castell-nedd, 13:30–14:30
- E-bost: neath.library@npt.gov.uk
- Ffôn: 01639 644604
Beth sy'n digwydd yng nghanol ein trefi
Canol tref Castell-nedd
Tŷ Coffi 46
Yn gweini detholiad o danteithion â thema Gymreig.
Y Tŷ Cymreig
Bydd y Tŷ Cymreig yn:
- yn cynnal cwis Cymraeg ac yna cerddoriaeth Gymraeg byw ar 26ain Chwefror
- yn dangos gemau Chwe Gwlad ar sgrin daflunydd fawr a mesanîn preifat y gellir ei archebu
- yn cynnig bwydlen Gymreig sy'n cynnwys ffefrynnau fel cawl oen a phopcorn cocos
- yn arddangos artistiaid a cherddoriaeth Cymru drwy eu system sain
- cydweithio ag eisteddfod Nedd i drefnu digwyddiad a ffair y gwanwyn
Canol tref Port Talbot
Y Loced Harddwch
Bydd y salon yn cynnal wythnos trawsnewid â thema Gymreig. Gall oedolion a phlant gael steiliau gwallt wedi'u hysbrydoli gan Gymru.
Bydd yna gornel lluniau teuluol hefyd gyda phropiau ac eiconau â thema Gymreig.
Stiwdio Ffotograffiaeth Laura Carys
Sesiynau tynnu lluniau bach arbennig ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi - cysylltwch â'r stiwdio nawr i archebu eich sesiwn.
Caffi Clecs
Mae prydau arbennig â thema Gymreig ar gael drwy gydol y cyfnod dathlu.
Canol tref Pontardawe
Grill S&A
Yn cynnig bwydlen wedi'i hysbrydoli gan Gymru a danteithion melys.
Melysion Williams
Dewch o hyd i anrhegion Cymreig wedi'u gwneud â llaw sy'n berffaith ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi.
Canol tref Glyn-nedd
Canolfan Treftadaeth, Celfyddydau ac Ymwelwyr Glyn-nedd
Mwynhewch gawl traddodiadol a chacennau Cymreig mewn lleoliad cynnes a chroesawgar.