Mannau lleol er budd natur
Gyda help gan arian oddi wrth Lywodraeth Cymru, rydyn ni wedi gwneud mannau’n well i natur yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Beth rydyn ni wedi’i gyflawni
Rydyn ni wedi defnyddio’r cyllid i ddarparu ystod eang o brosiectau adfer natur sy’n creu argraff:
Gwarchodfeydd natur trefol
Crëwyd ‘Gwarchodfeydd Natur Cerrig Camu’ i ddod â mwy o fywyd gwyllt i mewn i drefi a dinasoedd
Adfer dolydd
Cafodd dolydd blodau gwyllt eu creu a’u hadfer i gefnogi bioamrywiaeth
Cadwraeth rhywogaethau
Gwarchodwyd rhywogaethau prin fel y chwilen ddaear las yn Sgiwen
Gweithredu dan arweiniad y gymuned
Cefnogwyd mentrau lleol fel patrolau llyffantod
Cydweithio er budd natur
Darperir y prosiectau hyn mewn partneriaeth â Phartneriaeth Natur Leol CNPT er mwyn:
- Helpu i adeiladu amgylchedd naturiol mwy gwydn
- Annog cymunedau lleol i gymryd rhan yn y gwaith o warchod a dathlu natur.
Uchafbwyntiau cymunedol
Dilynwch ni ar @NPTWildlife a @NPTLNP er mwyn:
- cael yr wybodaeth ddiweddaraf am brosiectau adfer natur
- digwyddiadau cymunedol
- ffyrdd o gymryd rhan
Oriel
Gallwch weld sut mae prosiectau sy’n caru natur yn helpu i wneud lleoedd yn well i bobl a bywyd gwyllt.