Rheoli safleoedd
Mae gofalu am natur yn helpu pobl, anifeiliaid a phlanhigion. Mae hefyd yn golygu y gall cenedlaethau’r dyfodol fwynhau harddwch Castell-nedd Port Talbot.
Mae Cyngor CNPT wedi ymrwymo i warchod a gwella natur ar draws y sir..
Rydyn ni’n rheoli ystod eang o safleoedd sy’n bwysig ar gyfer:
- bioamrywiaeth
- cadwraeth
- mwynhad y cyhoedd
Mae’r safleoedd hyn yn derbyn gofal o dan ein Cynllun Dyletswydd Bioamrywiaeth.
Gwarchodfeydd Natur Lleol (LNR)
Mae’r safleoedd yn cynnig cynefinoedd fel gwlyptiroedd, coedwigoedd a dolydd.
Rydyn ni’n gofalu am bum ardal natur arbennig ble gallwch:
- fwynhau bywyd gwyllt
- dysgu am yr amgylchedd
- ymlacio yn yr awyr agored
Fe’u lleolir yn:
- Cwm Llwyn-eryr
- Gors Pant-y-Sais
- Camlas Abertawe
- Glyn Cwm Du a Phlanhigfa Glan-rhyd
- Tomen Bryn
Safleoedd o Bwysigrwydd er Cadwraeth Natur (SINC)
Mae SINCs yn lleoedd arbennig a ddewiswyd am fod ganddyn nhw blanhigion, anifeiliaid neu gynefinoedd prin sydd angen eu gwarchod.
Diogelir sawl SINC drwy’r Broses Reoli Datblygu.
Rheolir pob SINC sy’n eiddo i’r Cyngor mewn dull gweithredol i warchod bioamrywiaeth.
Parciau Gwledig
Mae ein tri Pharc Gwledig yn cynnig ffyrdd hygyrch o gysylltu â natur:
Mae gan y parciau hyn lwybrau sy’n hawdd eu defnyddio, cyfleusterau cyfleus, a natur hyfryd y gall pawb ei fwynhau.
Cynllun Caru Gwenyn CNPT
Mae ein Cynllun Caru Gwenyn CNPT yn helpu peillwyr i ffynnu ledled Castell-nedd Port Talbot.
Drwy newid y ffordd rydyn ni’n rheoli glasweltiroedd a lleiniau ar hyd y ffyrdd, rydyn ni’n:
- cefnogi bioamrywiaeth
- gwella iechyd y pridd
- adeiladu amgylchedd mwy gwydn ar gyfer bywyd gwyllt a phobl
Mwy am Safleoedd Arbennig yn CNPT
Dysgwch ragor ar wefan y Bartneriaeth Natur Leol.