Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Partneriaeth Natur CNPT

Rydyn ni’n cydweithio i warchod a gwella natur yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Mae NPT LNP yn rhwydwaith o bobl a sefydliadau sy’n becso am yr amgylchedd lleol. Does dim rhaid i chi fod yn arbenigwr ar natur i gymryd rhan, dim ond cael angerdd dros eich ardal a dyhead i wneud gwahaniaeth.

Cynllun Gweithredu Adfer Natur

Mae’r LNP yn gyfrifol am gynhyrchu’r Cynllun Gweithredu Adfer Natur dros Gastell-nedd Port Talbot. Mae’r cynllun yn amlinellu sut fyddwn ni’n gwarchod ac adfer natur ar draws y sir.

Cymryd rhan

P’un ai ydych chi’n llawn angerdd dros eich ardal leol, neu eisiau gwneud gwahaniaeth, mae digonedd o ffyrdd o gefnogi natur yng Nghastell-nedd Port Talbot. Does dim angen bod yn arbenigwr – y cyfan sydd ei angen yw brwdfrydedd!

Ffyrdd o gymryd rhan

  • Ymunwch â CNPT dros Natur ar gyfer gweithredu cymunedol, syniadau am natur a chyfarfodydd anffurfiol.
  • Dewch yn aelod o Bartneriaeth Natur Leol CNPT a helpwch i roi siâp ar adferiad natur yn eich ardal.
  • Dysgwch sut allwch chi helpu natur yn lleol, boed hynny drwy wirfoddoli, hyfforddi neu weithredu cymunedol.
  • Mynychwch gyfarfodydd bob yn ail fis a helpwch i roi ffurf ar Gynllun Gweithredu adfer Natur dros Gastell-nedd Port Talbot.  

Manteision ymuno

  • Helpwch i warchod ac adfer natur yn eich ardal.
  • Cymerwch ran mewn gwirfoddoli, hyfforddi neu weithredu cymunedol. 
  • Dewch yn rhan o rwydwaith gynyddol o bobl a sefydliadau sy’n cydweithio er budd gwell amgylchedd. 

Dechrau arni 

Tanysgrifiwch i’r rhestr bostio berthnasol er mwyn ymuno ag un grŵp neu’r ddau er mwyn dechrau gwneud gwahaniaeth heddiw.

Uchafbwyntiau cymunedol

Dewch i ddarganfod y diweddariadau, lluniau, ac ymwneud cymunedol diweddaraf gan Bartneriaeth Natur Leol CNPT ar y cyfryngau cymdeithasol.

Rhannu eich Adborth