Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Rhywogaethau arbennig

Mae Castell-nedd Port Talbot (CNPT) yn llawn o fathau gwahanol o natur a bywyd gwyllt, Mae’r gymysgedd o arfordiroedd, gwlyptiroedd, bryniau, a hen ardaloedd diwydiannol sydd yma’n creu cartref delfrydol ar gyfer llawer o blanhigion ac anifeiliaid.

Isod ceir rhai o uchafbwyntiau’r rhywogaethau a geir ledled y sir:

Murwyll Arfor

Planhigyn sy’n brin yn genedlaethol, ond sy’n ffynnu ar systemau twyni tywod Castell-nedd Port Talbot.

Chwilen Ddaear Las

Mae’r unig boblogaeth y gwyddys amdani yng Nghymru i’w chael yng Nghoed Maesmelin.

Britheg y Gors

Mae de Cymru, gan gynnwys Cwm Dulais, yn gadarnle i’r glöyn byw prin hwn ym Mhrydain.

Corryn Rafft y Ffen

Corryn mwyaf Prydain ac un o’r prinnaf, a geir mewn nifer fach iawn o safleoedd, gan gynnwys Camlas Tennant.

Llygoden bengron y dŵr

Darganfuwyd poblogaeth o bwys o lygoden bengron y dŵr, sydd mewn perygl o ddifodiant, yn ucheldiroedd CNPT yn ddiweddar.

Penigan y porfeydd

Blodyn gwyllt prin sy’n ffynnu ar hyd ochrau ffyrdd ac ar safleoedd tir llwyd.

Ystlumod ym Mharc Gwledig Margam

Un o’r safleoedd gorau ar gyfer ystlumod ym Mhrydain – cofnodwyd 14 o’r 18 rhywogaeth yma!

Craffu ar Rywogaethau Arbennig CNPT

Dysgwch ragor ar wefan y Bartneriaeth Natur Leol.

Rhannu eich Adborth