Safleoedd arbennig
Mae Castell-nedd Port Talbot yn drysor cudd yn ne Cymru, sy’n llawn dop o harddwch naturiol syfrdanol a chyfoeth ecolegol.
Dewch i ddysgu sut mae ymdrechion lleol yn:
• cadw ein tirweddau’n fyw
• helpu peri i rywogaethau prin ffynnu
• gwarchod encilfeydd heddychlon
Mae ein cymuned yn chwarae rhan hanfodol mewn diogelu’r mannau arbennig hyn.
Tirweddau amrywiol
Mae gan CNPT ystod eang o fannau naturiol y gall pobl eu mwynhau, gan gynnwys:
• Gwlyptiroedd Gors Crymlyn
• Coedwigoedd Cwm Nedd
• Mawndiroedd yr ucheldir
Bywyd gwyllt prin
Mae’r rhanbarth yn gartref i dros 21 Ardal o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA). Mae’r safleoedd hyn yn galluogi i rywogaethau prin fel corryn rafft y ffen a’r gardwenynen feinlais ffynnu.
Encilfeydd heddychlon
Mae ein safleoedd naturiol yn darparu encil heddychlon a noddfa hanfodol i fywyd gwyllt. Cerddwch drwy’r dolydd blodau gwylltion yn Nhomen Bryn neu ewch i wylio adar yng Nghors Pant-y-Sais.
Golwg fanylach ar Safleoedd Arbennig CNPT
Gallwch weld mwy o wybodaeth ar wefan y Bartneriaeth Natur Leol.