Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Swyddfa Digwyddiadau a Ffilm

Lle ar gyfer holl ddigwyddiadau ac ymholiadau ffilmio

Mae ein Swyddfa Digwyddiadau a Ffilm yn lle ar gyfer pob digwyddiad ac ymholiad ffilmio.

O 1 Ebrill 2025 mae Polisi Digwyddiadau newydd ar waith i arwain trefnwyr digwyddiadau a ffilmio ar ddefnyddio tir y Cyngor.

Rydym hefyd yn rhoi cyngor i drefnwyr digwyddiadau lle cynhelir y digwyddiad ar dir nad yw'n eiddo i'r Cyngor. Bydd ein tîm yn eich cefnogi trwy broses y Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch os oes angen.

Digwyddiadau a ffilmio

Mae Castell-nedd Port Talbot yn cynnig amrywiaeth eithriadol o gyfleoedd ar gyfer digwyddiadau a ffilmio /cynhyrchu.

Mynyddoedd dramatig a dyffrynnoedd llethrog. Rhaeadrau a thraethau eang. Tirweddau diwydiannol a lleoliadau trefol. Mae gan CNPT y cyfan.

Mae ein hamgylcheddau cyferbyniol yn darparu’r amrywiaeth berffaith o safleoedd ar gyfer:

  • gosodiadau
  • cefnlenni
  • cynulliadau

Cysylltiadau trafnidiaeth

Mae gennym gysylltiadau trafnidiaeth ardderchog, gan gynnwys:

  • mynediad hawdd i'r M4
  • agosrwydd at Abertawe a Chaerdydd
  • gorsafoedd trên hygyrch

Mae Castell-nedd Port Talbot yn ganolfan berffaith ar gyfer ffilmio, ymwelwyr a threfnwyr fel ei gilydd.

Strategaeth digwyddiadau

Gweler ein Strategaeth Ddigwyddiadau am ragor o wybodaeth am ein huchelgais i lunio strategaeth ddeng mlynedd i ddarparu rhaglen fywiog o ddigwyddiadau a gwyliau awyr agored drwy gydol y flwyddyn ar draws yr ardal.

Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch

Mae gan y Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch  arbenigedd mewn rheoli digwyddiadau mewnol ac allanol.

Bydd y grŵp yn helpu trefnwyr digwyddiadau drwy:

  • eich arwain at wasanaethau perthnasol
  • rhoi gwybod i chi am unrhyw ofynion, rheoliadau a chyfrifoldebau y mae'n rhaid i chi eu bodloni
  • rhoi sylwadau a chynghori ar geisiadau digwyddiadau

Ymweliadau safle

Byddwn yn ymweld â digwyddiadau yn ystod y broses sefydlu.  Mae hyn er mwyn asesu cydymffurfiaeth â:

  • cais y digwyddiad
  • asesiad risg
  • unrhyw drwyddedau a roddwyd ar gyfer y digwyddiad

Cysylltwch â ni

Ar gyfer digwyddiadau, e-bostiwch specialevents@npt.gov.uk

Ar gyfer ffilmio, e-bostiwch filming@npt.gov.uk

Beth i’w gynnwys

Er mwyn ein helpu i ymateb yn gyflym, cynhwyswch gymaint â phosibl o’r canlynol:

  • enw’r cynhyrchiad a’r cwmni cynhyrchu
  • dyddiadau arfaethedig y ffilmio
  • lleoliad
  • maint y criw
  • gofynion parcio
  • unrhyw gau ffyrdd neu drefniadau rheoli traffig
  • unrhyw beth arall rydych yn meddwl y dylem ei wybod

Beth sy’n digwydd nesaf

Ar ôl i ni dderbyn eich ymholiad, byddwn yn cysylltu â chi i drafod eich cynlluniau.

Byddwn hefyd yn gweithio gyda gwasanaethau eraill y cyngor i gadarnhau:

  • pa ganiatâd sydd ei angen arnoch
  • pa fesurau diogelwch y mae’n rhaid eu rhoi ar waith
Rhowch gymaint o rybudd ag y gallwch. Cysylltwch â ni o leiaf 3 mis cyn i’ch digwyddiad neu’ch ffilmio ddechrau.

Rhannu eich Adborth