Clwb Rygbi Castell-nedd
Mae Clwb Rygbi Castell-nedd, un o ragfuriau rygbi'r DU wedi cael cyfnod heriol oddi ar y maes ac, fel nifer o fusnesau, mae'r llwybr i lwyddiant wedi bod yn un anesmwyth. Mae Matthew Young, Rheolwr Cyffredinol Clwb Rygbi Castell-nedd, wedi nodi nifer o swyddi hanfodol y mae angen eu creu. Mae'r rôl gyntaf yn canolbwyntio ar wasanaeth cwsmeriaid. Roedd Emma, stiward gwirfoddol yng nghlwb rygbi Castell-nedd, wedi gwirfoddoli i gefnogi'r rôl hon. Roedd Matthew wedi cysylltu â gwasanaeth Cyflogadwyedd CNPT, y gwasanaeth sy'n gyfrifol am gefnogi cyflogaeth yng Nghastell-nedd Port Talbot. Mae Emma'n ddi-waith felly roedd hi'n gymwys i wneud cais am gymorth gan wasanaeth Cyflogadwyedd CNPT.
Roedd gwasanaeth Cyflogadwyedd CNPT yn gallu cofrestru Emma ar gyfer Cyfle Gwaith â Thâl, a fyddai'n talu ei chyflog am 12 wythnos. Mae Emma wedi cael llawer o fudd o'r swydd gwasanaeth cwsmeriaid ac mae clwb rygbi Castell-nedd wedi gallu sefydlu rôl heb orfod dod o hyd i'r arian i dalu cyflogau. Er mwyn helpu Emma yn ei rôl, mae Cyflogadwyedd CNPT yn ariannu hyfforddiant yn Excel, Word a Gwasanaeth Cwsmeriaid.
Meddai Matthew, "Mae Cyflogadwyedd CNPT wedi bod yn gymorth enfawr i'r Clwb ac i Emma. Rydym yn profi bod gwasanaeth cwsmeriaid yn rôl hynod bwysig. Rwy'n gobeithio bydd Cyflogadwyedd CNPT yn gallu'n helpu ni gyda rolau eraill a'u hanghenion hyfforddiant. Byddaf yn argymell unrhyw fusnes sy'n chwilio am staff newydd i gysylltu â nhw."
Mae Matthew yn brysur yn amlinellau rolau ar gyfer Swyddog Marchnata, Swyddog Cyswllt â'r Gymuned, Swyddog Datblygu Cymunedol - Rygbi a Rheolwr Cyffredinol Cynorthwyol. Mae'n trafod â gwasanaeth Cyflogadwyedd CNPT i helpu i gefnogi'r rolau hyn.
Gwasanaeth a gyflwynir gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot yw Cyflogadwyedd CNPT, ac fe'i hariennir gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
I gael gwybodaeth am sut y gall Cyflogadwyedd CNPT helpu pobl i gael hyfforddiant a phrofiad gwaith wedi'u hariannu, neu os ydych yn gyflogwr sy'n chwilio am staff newydd, ffoniwch 01639 684250.
Chwilio am gyfrifon cyfryngau cymdeithasol Cyflogadwyedd CNPT
#CronfaFfyniantGyffredinyDU

