Cyflogadwyedd CNPT a The Skills Academy JES Group Ltd yn gweithio gyda'i gilydd i helpu pobl ddi-waith
Mae cwmni JES Group o Bort Talbot wedi creu academi sgiliau, canolfan ragoriaeth hyfforddiant o'r radd flaenaf mewn sgiliau weldio, saernïo a thechnegol.
Drwy gydweithio gyda thîm Cyflogadwyedd CNPT, mae JES yn gobeithio darparu rhaglenni hyfforddi i bobl ddi-waith sy'n 16 oed ac yn hŷn.
Mae gan Dan Winney, un o gyfranogwyr Cyflogadwyedd CNPT, bryder ac iselder ac mae’r rhain wedi’i rwystro rhag dod o hyd i gyflogaeth. Helpodd Cyflogadwyedd CNPT Dan i fagu ei hyder a phenderfynu ar yr hyn y byddai'n hoffi ei wneud. Prynodd Cyflogadwyedd CNPT esgidiau diogelwch ar gyfer Dan ac maent yn ei helpu i gael gafael ar gerdyn CSCS. Awgrymwyd iddo gymryd rhan yn un o'r rhaglenni hyfforddiant weldio cyntaf.
Meddai Dan, "Mae'r gefnogaeth y mae Cyflogadwyedd CNPT wedi'i rhoi i mi wedi bod yn wych, ac mae'r cwrs weldio gyda The Skills Academy wedi fy helpu i fagu hunanhyder. Byddwn yn argymell i unrhyw un sy'n ceisio dod o hyd i waith i gysylltu â thîm Cyflogadwyedd CNPT."
Meddai Chris Sargeant, Swyddog Cyswllt Hyfforddiant, The Skills Academy, "Mae prinder weldwyr medrus yn y DU. Drwy weithio'n agos gyda thîm Cyflogadwyedd CNPT, rydym yn gobeithio rhoi cyfle i breswylwyr Castell-nedd Port Talbot gael swydd mewn weldio."
Gwasanaeth a gyflwynir gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot yw Cyflogadwyedd CNPT, ac fe'i hariennir gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
I gael gwybodaeth am sut y gall Cyflogadwyedd CNPT helpu pobl i gael hyfforddiant a phrofiad gwaith wedi'u hariannu, neu os ydych yn gyflogwr sy'n chwilio am staff newydd, ffoniwch 01639 684250. Chwilio am gyfrifon cyfryngau cymdeithasol Cyflogadwyedd CNPT

