Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cyflogadwyedd CNPT yn helpu Moira i gael swydd newydd

Roedd Moira Griffiths, un o breswylwyr Castell-nedd Port Talbot, yn chwilio am ddechrau newydd ym myd cyflogaeth ac fe'i cyfeiriwyd i wasanaeth Cyflogadwyedd CNPT, sy'n helpu pobl i gael swyddi yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Rhoddodd Cyflogadwyedd CNPT fentor cyflogaeth i Moira, sef Vicky, er mwyn ei helpu i nodi pa fath o swydd fyddai'n cyd-fynd â'i sgiliau a'i diddordebau. Cynhaliodd Vicky asesiad Work Star a wnaeth helpu Moira i nodi ei gwendidau a’i chryfderau a sut gallai defnyddio’r sgiliau hyn mewn swyddi gwahanol. Roedd llwybr Moira i gyflogaeth yn debyg iawn i lwybr Vicky ei hun. Roedd Vicky wedi bod yn ddi-waith ac roedd yn chwilio am waith pan gafodd ei chyfeirio i wasanaeth Cyflogadwyedd CNPT. Ar ôl cymorth mentora a hyfforddiant, cyflwynodd Vicky gais am swydd gyda gwasanaeth Cyflogadwyedd CNPT ac roedd yn llwyddiannus. Mae Vicky bellach yn aelod gwerthfawr o'r tîm ac roedd yn falch o gefnogi Moira. Cododd swydd gyda gwasanaeth Cyflogadwyedd CNPT a gwnaeth Vicky ddwyn perswâd ar Moira i roi cynnig arni. Gwnaeth Vicky helpu Moira i lenwi'r ffurflen gais a meithrin dealltwriaeth o dechnegau cyfweliad. Roedd Moira yn barod am y cyfweliad ac yn teimlo'n hyderus, gan greu argraff ar bawb a chael cynnig swydd Swyddog Cymorth Busnes.

Meddai Moira, “Roeddwn wedi cwblhau fy ngradd mewn Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ac roeddwn yn meddwl beth sydd nesaf. Rwyf yn fy mhumdegau ac roeddwn wedi bod yn ddi-waith ers amser hir. Mae cyflwyno ceisiadau am swyddi wedi newid yn fawr ac roeddwn yn teimlo ar goll braidd. Roedd Cyflogadwyedd CNPT yn wych, gan roi cymorth ymarferol i fi. Pan grybwyllodd Vicky y swydd yma, roeddwn yn meddwl y byddwn yn mwynhau gweithio yn y gwasanaeth hwnnw'n fawr. Yn ffodus, cefais gynnig y swydd ac nid wyf wedi edrych yn ôl.”

Gwasanaeth a gyflwynir gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot yw Cyflogadwyedd CNPT, ac fe'i hariennir gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

I gael gwybodaeth am sut y gall Cyflogadwyedd CNPT helpu pobl i gael hyfforddiant a phrofiad gwaith wedi'u hariannu, neu os ydych yn gyflogwr sy'n chwilio am staff newydd, ffoniwch 01639 684250. 

Chwiliwch am gyfrifon cyfryngau cymdeithasol Cyflogadwyedd CNPT. 
#CronfaFfyniantGyffredinyDU

Moira a Vicky Moira a Vicky