Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datblygu sgiliau er mwyn bod yn hunangyflogedig

Symudodd Charlotte Edward, sy'n 41 ac yn byw ym Mhort Talbot, i Gymru i ddechrau bywyd newydd ar ôl iddi ddioddef cam-drin domestig. Mae hi'n ofalwr cofrestredig ar gyfer ei mab sydd ag awtistiaeth ac arthritis felly mae ei bywyd yn brysur iawn ond mae hi'n benderfynol o ennill cyflog er mwyn cefnogi ei theulu. Mae Charlotte yn mwynhau gwaith ymarferol felly byddai swydd ym maes masnach yn ddelfrydol ar ei chyfer. Ariannodd Cyflogadwyedd CNPT gwrs 3 diwrnod mewn Dylunio a Gosod Resin. Yna cysylltodd Cyflogadwyedd CNPT â Women Construct Wales, menter gymdeithasol sy'n helpu menywod i ddatblygu sgiliau newydd ym maes adeiladu a masnach. Helpodd Cyflogadwyedd CNPT Charlotte i gyflwyno cais yn llwyddiannus. Drwy ddysgu sgiliau newydd, nod Charlotte yw bod yn hunangyflogedig gan greu a gosod lloriau resin epocsi. Gwnaeth y gefnogaeth a dderbyniodd Charlotte gan Cyflogadwyedd CNPT gymaint o argraff arni, aeth ati i atgyfeirio ei ffrind, Lee.

Roedd gan Lee Llewelyn, 38 oed, gymhwyster City and Guilds Lefel 2 mewn plymio ac roedd ar yr un cwrs â Charlotte gyda Women Construct Wales. Helpodd Cyflogadwyedd CNPT Lee i ddatblygu ei CV, llenwi ceisiadau am swyddi ac erbyn hyn mae'n chwilio am Gyfle Gwaith â Thâl gyda chyflogwr priodol.

Meddai Charlotte, "Mae fy ochr greadigol yn dwlu ar weithio gyda resin epocsi ac mae hyblygrwydd bod yn hunangyflogedig yn berffaith i mi".

Meddai Lee, "Mae fy mhlant wedi tyfu i fyny felly mae'n amser gwych i mi ddatblygu fy ngyrfa. Yn ddelfrydol, hoffwn ddod yn blymwr cwbl gymwys."

Gwasanaeth a gyflwynir gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot yw Cyflogadwyedd CNPT, ac fe'i hariennir gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

I gael gwybodaeth am sut y gall Cyflogadwyedd CNPT helpu pobl i gael hyfforddiant a phrofiad gwaith wedi'u hariannu, neu os ydych yn gyflogwr sy'n chwilio am staff newydd, ffoniwch 01639 684250.

Chwilio am gyfrifon cyfryngau cymdeithasol Cyflogadwyedd CNPT

#CFfGDU

Charlotte And Lee Charlotte And Lee