Dylan, myfyriwr Blwyddyn 10 o Ysgol Ystalyfera, yn elwa o leoliad gwaith yn Quad Bikes Wales
Uchelgais Dylan yw naill i hyfforddi fel mecanydd yn 'Formula 1' neu yn y Llu Awyr Brenhinol. Pan gynigiwyd y cyfle iddo dreulio wythnos yn dysgu am fecaneg beiciau cwad gyda chwmni lleol, achubodd ar y cyfle'n syth. Roedd Dylan mor fodlon ar y profiad y gwirfoddolodd i aros yno am wythnos ychwanegol yn ystod gwyliau'r ysgol.
Meddai Dylan, "Rwyf wir wedi mwynhau bod yma a byddwn yn cynghori eraill i dderbyn lleoliad gwaith. Mae'r tîm yma wedi bod yn wych ac rwyf wedi dysgu llawer a fydd yn fy helpu gyda fy nghynlluniau gwaith yn y dyfodol."
Cafodd Dylan brofiad ymarferol wrth weithio gyda'r tîm mecaneg a bu'n dysgu sut roedd y busnes yn gweithredu yn y swyddfa ac ar y llawr gwerthu.
Trefnwyd lleoliad gwaith Dylan gan Gyflogadwyedd CNPT, gwasanaeth a ddarperir gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot.
I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch neu e-bostiwch Nicol Walker, Cyflogadwyedd CNPT 07890893534 n.walker@npt.gov.uk
Mae’r prosiect hwn yn cael ei gyllido gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU

